Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gwnaeth Andrew Webb, o Lyncoch, Pontypridd, gam-drin merch yn rhywiol pan oedd hi ond yn saith oed.
Cadwodd y ferch beth ddigwyddodd iddi yn gyfrinach tan 2021, pan ddatgelodd, yn ddewr, y trais a ddioddefodd yn nwylo Andrew Webb. Cafodd ei arestio a'i gyhuddo.
Plediodd yn ddieuog i ddau achos o drais â cheg ond fe'i cafodd yn euog i'r ddau achos yn dilyn treial.
Heddiw (dydd Gwener 3 Chwefror) cafodd y dyn 35 oed ei garcharu am 15 mlynedd a chael gorchymyn atal i beidio â chysylltu â'r dioddefwr fyth. Cafodd hefyd ei roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes a rhoddwyd gorchymyn atal niwed rhywiol iddo.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Linsey Murray, arweinydd yr achos:
“Hoffwn dalu teyrnged i'r dioddefwr am y dewrder a ddangosodd drwy gydol yr ymchwiliad.
“Mae gan bob plentyn yr hawl i dyfu i fyny heb unrhyw ofn a thrais ac rwy'n gobeithio bod yr achos hwn yn dangos ein hymroddiad a'n hawydd pendant i gael cyfiawnder i unrhyw un sydd wedi dioddef fel hyn.
“Rwy'n annog unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd fel hyn i roi gwybod i ni, waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio, oherwydd caiff y drosedd ei ymchwilio, a byddant yn cael ein cefnogaeth lwyr.”
Gellir gofyn i Ganolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) arbenigol am help, cyngor a chymorth. Ewch i http://www.newpathways.org.uk/ neu https://bipcaf.gig.cymru/our-services/iechyd-rhywiol/gwasanaethau-a-ddarperir/canolfan-cyfeirio-ymosodiadau-rhywiol-ynys-saff/ am ragor o wybodaeth.