Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r Heddlu yn apelio am dystion yn dilyn aflonyddwch, yn ymwneud â dau grŵp o ddynion, ar Heol y Brodyr Llwydion, tua 10.45pm nos Sadwrn, 12 Awst.
Cafodd dyn 22 oed ei arestio ar amheuaeth o affräe ac mae ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Hannah Campbell-Todd o Heddlu De Cymru: “Cafodd tri dyn eu cludo i'r ysbyty ond nid yw eu hanafiadau yn rhai sy'n newid bywyd nac yn bygwth bywyd, diolch byth.
“Hoffem ddiolch i aelodau o'r cyhoedd a'r parafeddygon oddi ar ddyletswydd am stopio i helpu'r rhai a gafodd eu hanafu.
“Rydym yn gweithio'n galed gyda phartneriaid i gadw economi liw nos Caerdydd yn ddiogel ac yn groesawgar a ni fyddwn yn goddef y math hwn o ymddygiad.
“Mae'r ymchwiliad yn parhau er mwyn sefydlu'r union amgylchiadau ac rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â deunydd fideo neu a welodd yr hyn a ddigwyddodd.”
Os gallwch helpu, cysylltwch â ni drwy un o’r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu cyfeirnod 2300270115.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.