Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r heddlu yn Abertawe yn apelio eto am wybodaeth mewn perthynas â James Beer sy'n dal ar goll.
Gwelwyd James, 29 oed, ddiwethaf yn ardal Cas-llwchwr ddydd Mercher 17 Mai am 8.30pm.
Mae'n 5 troedfedd 8 modfedd o daldra, yn fain gyda gwallt byr brown golau ac mae'n bosibl fod ganddo locsyn.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Claire Lewis:
“Mae tri mis wedi mynd heibio bellach ers i ni gael gwybod bod James ar goll ac mae ei deulu yn daer i ddod o hyd iddo ac erbyn hyn wedi rhyddhau'r ffotograff newydd hwn yn y gobaith y bydd yn arwain at wybodaeth newydd. Mae ymholiadau helaeth wedi cael eu cynnal ers i ni gael gwybod ei fod ar goll er mwyn ceisio dod o hyd iddo.
“Rydym yn ddiolchgar iawn am y wybodaeth sydd wedi dod i law gan aelodau o'r cyhoedd hyd yma, ond byddem unwaith eto yn apelio ar unrhyw un a all fod â gwybodaeth mewn perthynas â lle y gallai fod i gysylltu â ni.
“Gallai unrhyw wybodaeth, ni waeth pa mor fach ydyw, ein helpu i ddod o hyd i James.
“Cysylltwch â ni gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2300163003.”
Neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.