Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae James Kerr, llofrudd a euogfarnwyd sydd wedi bod yn bwrw ei ddedfryd yn y carchar, wedi derbyn dedfryd o 8 mlynedd am ddal carcharor arall yn wystlon drwy ddal rasel i'w wddf wrth orchmynu cael symud i garchar arall.
Roedd James Kerr, 42, yn garcharor ym Ngharchar Ei Fawrhydi (HMP) Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Mehefin 2021 pan glymodd ei gyd-garcharor â chareiau esgidiau a'i fygwth ag arf gwneud. Cafodd swyddog carchar ei rybuddio am y sefyllfa ac aeth i'r gell i siarad â Kerr. Pan welodd y safle o'i flaen, dywedodd y swyddog ei fod "yn teimlo'n sâl ag ofn".
Dywedodd Kerr wrth y swyddog carchar ei fod am gael symud i garchar arall.
Yna aeth ymlaen i fygwth ei wystlon yn ymosodol gyda chyllell wneud.
Parhaodd y sefyllfa wystlon am awr. Daeth swyddogion i mewn i'r gell gyda tharian a mynd â Kerr i'r uned neilltuo.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Dean Taylor:
"Mae ein Tîm Troseddu mewn Carchardai yn parhau i weithio gyda'n partneriaid yng Ngharchar Ei Fawrhydi Parc a Gwasanaeth Prawf Ei Fawrhydi i fynd i'r afael â throseddau treisgar, hyd yn oed yn ystâd y carchardai. Bydd y ddedfryd hon yn neges i'r rheini sydd hyd yn oed wedi'u carcharu'n barod, na chaiff y math hwn o ymddygiad ei oddef."
Dywedodd Janet Wallsgrove, Cyfarwyddwr Carchar y Parc:
"Diogelwch y carcharorion a'n staff yw ein prif flaenoriaeth a byddwn yn gwthio am y cosbau cryfaf posibl yn erbyn y rheini sy'n ceisio eu niweidio bob amser.
"Hoffem ddiolch i'r heddlu am eu cefnogaeth barhaus ar y mater hwn a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda nhw."
Plediodd Kerr yn euog i gam-garcharu a dau achos o feddu ar eitem heb awdurdod yn y carchar. Cafodd ei ddedfrydu i wyth mlynedd a thri mis yn y carchar.