Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Chris Jenkins ei ddedfrydu i bum mlynedd a thri mis yn y carchar yn dilyn ysbeiliad arfog yn Llanisien.
Am 6am ar 19 Mehefin, aeth Jenkins, 35, i'r siop leol ar Heol yr Orsaf, Llanisien gyda dwy gyllell a dal menyw 41 oed y tu ôl i'r til.
Mynnodd gael arian o'r tiliau ond ni allai'r dioddefwr oedd dan straen eu hagor. Yna mynnodd ei bod yn gwagio'i phocedi, a datgelodd nad oedd ganddi unrhyw beth ynddynt.
Gwelodd aelod o'r cyhoedd ddyn yn ymddwyn yn amheus y tu ôl i'w gartref, yn union ar ôl y digwyddiad. Ymddangosodd fel pe bai'n newid ei ddillad ac yn cuddio'r dillad roedd yn eu gwisgo cyn hynny. Roedd y dyn hwn yn gwisgo dillad a oedd yn cyfateb i'r disgrifiad yn gynharach yn y siop.
Arweiniodd yr adroddiad at arestio Jenkins. Yna bu swyddogion y chwilio'r eiddo lle cafodd Jenkins ei arestio gan atafaelu dwy gyllell, a oedd yn cyfateb i'r disgrifiad o'r cyllyll a ddefnyddiwyd yn y lladrad.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Molly Thomas:
"Rydym yn falch o fod wedi collfarnu Jenkins ar ran y dioddefwr a wynebodd brofiad trawmatig gyda bygythiad cyllell wrth gyflawni ei swydd ddyddiol.
"Rhaid cydnabod ei dewrder yn rhoi gwybod i'r heddlu ac am gefnogi ein hymchwiliad.”
Plediodd Jenkins yn euog i ladrata ac am gael eitem lafnog yn ei feddiant.