Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Lannau Mersi wedi cael ei anfon i'r carchar am saith mlynedd, ar ôl iddo gael ei stopio gan heddlu Gorllewin Mersia ar 12 Mehefin 2023 fel rhan o ymgyrch ar y cyd gan Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol ar gyfer De Cymru, ac Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol y Gogledd-orllewin (NWROCU).
Roedd Ronald Grimes, 46 oed o Sefton yn Lerpwl, yn cario 105kg o Amffetamin â gwerth stryd o dros filiwn o bunnoedd yng nghefn ei gar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Adam Griffiths o Dîm Amharu Rhanbarthol Tarian: “Cafodd Grimes ei stopio wrth deithio o Lerpwl i Dde Cymru. Roedd 105 cilogram o amffetamin â gwerth stryd o dros filiwn o bunnoedd yn ei gar, a allai fod wedi achosi lefel aruthrol o niwed ar ein strydoedd ac wedi galluogi'r rhai a oedd yn gysylltiedig â'r achos i elwa ar ddioddefaint a dibyniaethau eraill.
“Nid yn unig roedd Grimes yn masnachu lefelau diwydiannol o amffetamin i Gymru, ond dangosodd lawrlwythiadau ffôn symudol ei fod hefyd yn ymwneud â chyflenwi canabis cyfanwerthol yn ardal Lerpwl.
“Dyma enghraifft ardderchog o Tarian yn gweithio mewn partneriaeth lwyddiannus â'n cydweithwyr yn Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol y Gogledd-orllewin a Heddlu Gorllewin Mersia.
“Dylai'r ddedfryd a roddwyd i Grimes gyfleu neges glir y byddwn yn gweithio'n ddi-baid i ddod o hyd i'r rhai sy'n ceisio llenwi ein strydoedd â chyffuriau anghyfreithlon a'u dwyn gerbron y Llysoedd.”
Ddydd Llun 21 Awst, cafodd Grimes ddedfryd o saith mlynedd yn y carchar, wedi'i leihau o ddedfryd deng mlynedd ar ôl iddo bledio'n euog.