Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Joshua Lovering wedi cael ei garcharu am 12 mlynedd ar ôl ei gael yn euog o nifer o ymosodiadau rhywiol ar ferched.
Cafodd Lovering, 20 oed, o Gwmbrân ei ddedfrydu am y brif drosedd o ymosod, lle aeth i mewn i gartref merch ym Mhen-y-bont ar Ogwr heb ei chaniatâd ym mis Medi 2022. Aeth i mewn i'w chartref heb wahoddiad ac ymosododd arni, a dim ond dewrder y ddioddefwraig a ddaeth â'r ymosodiad i ben. Ymladdodd y ddioddefwraig yn ôl a llwyddodd i'w frathu, crafu ei wyneb, ei gicio a'i fygwth hyd nes iddo stopio a gadael yn y pendraw.
Lleolwyd Lovering a'i arestio o fewn oriau wedi'r ymosodiad ac yn dilyn hyn, cafodd ei gyhuddo o ymgais o dreisio ac ymosodiad rhywiol a chafodd ei gadw yn y ddalfa.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Ashley Colston: "Roedd dewrder y ddioddefwraig yn yr achos hwn yn anhygoel.
"Mae Lovering yn droseddwr peryglus fel y profa'r ymosodiadau ffyrnig hyn. Dangosa'r ffaith fod dioddefwr wedi gallu ymladd yn ôl a chysylltu â'r heddlu, ddewrder enfawr ac mae'n glod mawr iddi.
"Mae Heddlu De Cymru yn gadarn yn eu hymateb yn erbyn rheini sy'n cyflawni trais yn erbyn menywod a merched. Rydym yn croesawu’r ddedfryd am y troseddau erchyll hyn ac yn gobeithio y bydd hyn yn annog eraill i godi eu llais".
Pan ymosododd Lovering ar y ferch, roedd eisoeso dan ymchwiliad am ymosodiadau rhywiol ac affraeau eraill. Yn ystod yr ymosodiadau hyn roedd ganddo gyllell a ddefnyddiodd i fygwth ei ddioddefwyr i fynnu rhyw. Pan oedd ar remand, cafodd ei gyhuddo am ei gyfres gyfan o ymosodiadau a arweiniodd at y ddedfryd hir a gyhoeddwyd yr wythnos hon.
Plediodd yn euog i'r affräe, ymosodiad drwy dreiddiad, ymosodiad rhywiol a bygwth person â chyllell mewn man preifat.
Mae cyfanswm ei ddedfryd yn 16 mlynedd, 12 mlynedd yn y ddalfa a 4 mlynedd ar drwydded.