Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Clywodd y llys fod y grŵp troseddau cyfundrefnol yn ymwneud â chynhyrchu a chyflenwi canabis o dŷ yn 319 Heol Casnewydd yn y Rhath, Caerdydd.
Dau ddyn wedi'u carcharu am fod yn rhan o grŵp troseddau cyfundrefnol a oedd yn gysylltiedig â llofruddiaeth yng Nghaerdydd.
Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu am fod yn rhan o grŵp troseddau cyfundrefnol a oedd yn gysylltiedig â llofruddiaeth Tomasz Waga.
Cafwyd Arjet Mehalla, 43 oed o’r Tyllgoed, yn euog o gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol yn dilyn treial yn Llys y Goron Casnewydd.
Cafwyd ei nai, Ardit Mehalla, 26 oed, o Lundain yn euog o ymwneud â thyfu canabis.
Clywodd y llys fod y grŵp troseddau cyfundrefnol yn ymwneud â chynhyrchu a chyflenwi canabis o dŷ yn 319 Heol Casnewydd yn y Rhath, Caerdydd.
Y ffatri canabis hon yr oedd Tomasz Waga a dyn arall wedi teithio i Gaerdydd o Lundain er mwyn torri i mewn iddi ym mis Ionawr 2021.
Cafodd grŵp troseddau cyfundrefnol a oedd yn gyfrifol am y ffatri ei rybuddio am hyn, ac ymosodwyd ar y ddau ddyn yn y lleoliad.
Aed â Tomasz o'r eiddo mewn Mercedes arian, sydd heb ei ddarganfod o hyd, a chanfuwyd ei gorff yn Westville Road, Pen-y-lan, gan aelod o'r cyhoedd tua 11.30pm y diwrnod hwnnw. Roedd wedi dioddef sawl anaf.
Mae'r rhai a oedd yn gyfrifol am ei lofruddiaeth eisoes wedi cael eu dedfrydu.
Mae Josif Nushi a Mihal Dhana yn bwrw dedfrydau oes am lofruddiaeth. Cafodd Hysland Aliaj ei garcharu am 10 mlynedd am ddynladdiad.
Yr ymchwiliad hwn oedd un o'r ymchwiliadau mwyaf cymhleth ac estynedig a gynhaliwyd erioed gan Heddlu De Cymru gydag ymholiadau'n cael eu cynnal ledled y DU ac Ewrop, gan gynnwys arestiadau yn Albania, Ffrainc a'r Almaen.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark O'Shea o Heddlu De Cymru: “Wrth ymchwilio i lofruddiaeth Tomasz Waga, roeddem hefyd yn ymchwilio i’r grŵp troseddau cyfundrefnol ehangach. Mae hyn yn rhan o genhadaeth Heddlu De Cymru i erlid troseddwyr yn ddiflino.
“Mae’r canlyniad yn y llys yn deillio o waith ditectif a oedd yn cynnwys teleffoni fforensig manwl ynghyd â data system adnabod rhifau ceir yn awtomatig a theledu cylch cyfyng.
“O ganlyniad i’r ymchwiliadau helaeth hyn, bu modd i ni brofi’r cysylltiad rhwng Arjet Mehalla ac Ardit Mehalla, a’r rhai a gafwyd yn euog o lofruddiaeth Tomasz.
“Yn aml, mae pobl yn sôn am ganabis fel trosedd heb ddioddefwyr, ond nid yw hynny'n wir. Mae troseddau cyfundrefnol y tu ôl i lawer o'r ffatrïoedd canabis hyn. Mae'r troseddwyr yn ennill llawer o arian ar draul ein cymunedau ac maen nhw'n gwarchod eu planhigfeydd gan ddefnyddio trais a bygythiadau.”
Cafodd £48k mewn arian parod a nifer o gerbydau eu hatafaelu yn ystod yr ymchwiliad.
Cafodd Arjet Mehalla ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar.
Cafodd Ardit Mehalla ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar.
Mae disgwyl i drydydd dyn, Isaac Izar, gael ei ddedfrydu am drosedd debyg ar 11 Awst ar ôl iddo hefyd bledio’n euog.
Mae teulu Tomasz Waga wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am sut i adnabod arwyddion ffatri canabis, ewch i: https://crimestoppers-uk.org/keeping-safe/community-family/cannabis-cultivation
Gallwch roi gwybod am bryderon drwy un o'r ffyrdd canlynol: