Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Treisiwr plentyn yn cael ei garcharu am 15 mlynedd
Mae Daniel Atkins, 33 oed, wedi cael ei garcharu am 15 mlynedd am dreisio ac ymosod ar blant dan 13 oed yn rhywiol.
Mae Atkins o Ben-y-bont ar Ogwr wedi'i gael yn euog o ymosodiad rhywiol drwy dreiddiad ac am achosi i blentyn gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol.
Cyflawnodd ei droseddau mwyaf diweddar yn 2022 ond gwnaeth yr ymchwiliad ddarganfod bod y cam-drin wedi bod yn mynd rhagddo am y chwe blynedd diwethaf.
Yn dilyn adroddiad i'r heddlu, cafodd Atkins ei arestio gan swyddogion ar 7 Mai 2022 a chafodd ei gyhuddo a'i gadw yn y ddalfa drannoeth.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Leah Fox: “Hoffwn dalu teyrnged i ddewrder arbennig y dioddefwyr yn ystod yr ymchwiliad hwn. Arweiniodd y dewrder i roi gwybod i'r heddlu am y cam-drin erchyll hwn at Atkins yn cael ei gollfarnu ac mae'n wynebu dedfryd hirfaith.
“Rydym hefyd yn annog unrhyw achwynydd arall i ddod ymlaen a rhoi gwybod am droseddau a allai fod wedi cael eu cyflawni yn eu herbyn.
“Un o brif flaenoriaethu Heddlu De Cymru yw trais yn erbyn menywod a merched ac mae'r ymchwiliad hwn yn tynnu sylw at ein hymrwymiad i sicrhau euogfarnau ar gyfer y fath droseddau.”
Dedfrydwyd Atkins i 15 mlynedd yn y carchar gyda chyfnod estynedig ar drwydded o 5 mlynedd.
Bydd hefyd yn droseddwr rhyw cofrestredig am weddill ei oes.