Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae chwe dyn wedi cael eu carcharu am gyfanswm o 34 mlynedd a thri mis am droseddau'n ymwneud â chyffuriau a chaethwasiaeth fodern.
Ymgyrch Bridport oedd yr ymchwiliad ynghylch grŵp troseddau cyfundrefnol o Gasnewydd a oedd yn ecsbloetio pobl ifanc yn eu harddegau yng Nghastell-nedd i werthu eu cyffuriau ar eu rhan.
Mae'r bobl ganlynol wedi cael eu dedfrydu am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A ac am ecsbloetio pobl ifanc yn eu harddegau sy'n agored i niwed, o dan adran dau o'r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern.
• Dwayde Stock, 28 oed, o Gasnewydd – naw mlynedd am droseddau'n ymwneud â chyffuriau a chaethwasiaeth fodern.
• David Rustham Allen, 30 oed o Gasnewydd – wyth mlynedd a thri mis am droseddau'n ymwneud â chyffuriau a chaethwasiaeth fodern.
• Justin James Hensall, 36 oed, o Gasnewydd – chwe blynedd ac wyth mis am droseddau'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau a chaethwasiaeth fodern.
• Joshua Nathan Jeffries, 32 oed, o Gasnewydd – tair blynedd ac wyth mis am gyflenwi cyffuriau.
• Ottis Jeffries, 28 oed, o Gasnewydd – tair blynedd a phedwar mis am gyflenwi cyffuriau.
• Bernard Christopher Hurley, 37 oed, o Gasnewydd – tair blynedd a phedwar mis am gyflenwi cyffuriau.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Phil Oseng-Rees: “Rydym yn ymrwymedig i fynd i'r afael â Llinellau Cyffuriau er mwyn cadw ein cymunedau'n ddiogel ac i garcharu'r rhai sy'n cymryd mantais o eraill at ddibenion delio mewn cyffuriau.
“Mae ecsbloetio plant sy'n agored i niwed fel hyn yn annerbyniol ac mae'r defnydd o ddeddfwriaeth caethwasiaeth fodern yn elfen bwysig wrth dargedu rhwydweithiau troseddol sy'n defnyddio plant ac oedolion sy'n agored i niwed i wneud yr elw mwyaf o gyflenwi cyffuriau. Mae dedfryd heddiw yn cyfleu neges glir y byddwn yn parhau i geisio dileu gweithgarwch llinellau cyffuriau.”
Dyma'r achos cyntaf o'i fath yn Heddlu De Cymru lle mae llinellau cyffuriau wedi cael eu herlyn am droseddau'n ymwneud â chaethwasiaeth fodern yn ogystal â chyhuddiad o fasnachu mewn cyffuriau drwy ddefnyddio ymchwiliad sy'n cael ei arwain gan dystiolaeth heb fod angen unrhyw dystiolaeth gan y dioddefwyr i gefnogi'r erlyniad.
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Marc Gardner: “Hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled a'u hymrwymiad i barhau â'r ymchwiliad hwn. Heb gefnogaeth y Tîm Troseddau Cyfundrefnol yng Nghastell-nedd, Tarian, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi byddai'r ymchwiliad hwn wedi bod yn llawer anoddach.
“Nid oes lle i ecsbloetiaeth na chaethwasiaeth yn ein cymunedau yn Ne Cymru, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i arestio'r rhai dan sylw.
“Os ydych yn poeni am bobl yn delio mewn cyffuriau yn yr ardal lle rydych chi'n byw, rhowch wybod i ni. Caiff yr holl wybodaeth ei chofnodi, a byddwn bob amser yn ceisio gweithredu arni.”