Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
20:39 27/11/2022
Mae Heddlu De Cymru wedi dechrau ymchwiliad ar ôl i gyrff dau fabi gael eu canfod mewn eiddo yn Y Felin-wyllt, Pen-y-bont ar Ogwr, nos Sadwrn 26 Tachwedd.
Cafodd swyddogion eu galw i'r tŷ ychydig cyn 8pm.
Arestiwyd dau ddyn 37 oed a 47 oed, a menyw 29 oed, ar amheuaeth o gelu genedigaeth plentyn ac maent yn parhau yn y ddalfa.
Mae ymchwiliad yn mynd rhagddo ac mae ditectifs yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Marc Attwell o Heddlu De Cymru: “Mae'r digwyddiad hwn yn un trallodus iawn, ac rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni.
“Bydd presenoldeb yr heddlu yn amlwg yn yr ardal wrth i ymholiadau cynhwysfawr barhau. Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu bryderon, i siarad â swyddogion.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod *399650.