Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
08:37 01/12/2022
Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i gorff dau fabi a ganfuwyd. Canfuwyd y babanod mewn cyfeiriad yn Y-Felin-Wyllt, Pen-y-bont ar Ogwr, nos Sadwrn, 26 Tachwedd.
Cafodd dau ŵr, 37 a 47 oed, a gwraig 29 oed eu harestio ar amheuaeth o gelu genedigaeth plentyn.
Mae'r tri wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu am y drosedd wrth i'r ymchwiliad barhau.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Darren George:
”Rwy'n meddwl am unrhyw un y mae'r digwyddiad trawmatig hwn wedi effeithio arnynt.
”Rwy'n ymwybodol o'r effaith y mae'r digwyddiad hwn wedi ei chael ar y gymuned a hoffwn ddiolch i'r tystion a'r triogolion lleol a gysylltodd â ni ac a fu'n gweithio'n agos gyda ni dros y dyddiau diwethaf.
“Mae hwn yn ymchwiliad cymhleth a sensitif ac rydym wedi cynyddu presenoldeb yr heddlu yn Y-Felin-Wyllt ers dydd Sadwrn. Bydd hyn yn parhau dros y dyddiau nesaf wrth i'r ymholiadau barhau.
“Gwyddom y bydd y digwyddiad hwn yn cael effaith ar y gymuned leol lle y digwyddodd hyn a thu hwnt, a byddwn yn annog unrhyw un sydd â phryderon i siarad â'u tîm Plismona yn y Gymdogaeth lleol.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad hwn, ac nad ydynt wedi siarad â'r heddlu eisoes, i gysylltu â ni drwy https://bit.ly/SWPProvideInfo, 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111, gan ddyfynnu'r rhif 2200399650.