Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i gorff dau fabi a ganfuwyd. Canfuwyd y babanod mewn cyfeiriad yn Y-Felin-Wyllt, Pen-y-bont ar Ogwr, nos Sadwrn, 26 Tachwedd.
Cafodd dau ŵr, 37 a 47 oed, a gwraig 29 oed, sydd yn nalfa'r heddlu ar hyn o bryd am gelu genedigaeth plentyn, estyniad ar eu cyfnod cadw a ganiatawyd yn Llys Ynadon Merthyr fore heddiw.
Mae'r heddlu yn parhau i gwestiynu'r unigolion dan sylw ac yn disgwyl canlyniadau'r archwiliadau post-mortem a fforensig, sy'n mynd rhagddynt heddiw, i gadarnhau achosion y marwolaethau.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Darren George o Heddlu De Cymru:
“Rydym yn meddwl am unrhyw un y mae'r digwyddiad trawmatig hwn wedi effeithio arnynt. Hoffwn hefyd ddiolch i'r gymuned leol am ei hamynedd, o ystyried gweithgarwch sylweddol yr heddlu yn yr ardal dros y 36 awr diwethaf.
“Ar ben hynny, hoffwn atgoffa aelodau o'r cyhoedd i fod yn gyfrifol wrth rannu gwybodaeth drwy'r cyfryngau cymdeithasol a dulliau eraill. Mae rhywfaint o wybodaeth wedi peri gofid i'r bobl sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad a gallai danseilio'r ymchwiliad.
“Mae'r ymchwiliad yn parhau a byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad hwn, ac nad ydynt wedi siarad â'r heddlu eisoes, i gysylltu â ni drwy https://bit.ly/SWPProvideInfo, 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 2200399650.”