Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
08:35 30/11/2022
Mae ynadon wedi cael gwarant i ymestyn cyfnod cadw y ddau ŵr a'r wraig a arestiwyd ar amheuaeth o gelu genedigaeth plentyn.
Yn Llys Ynadon Casnewydd brynhawn ddoe (dydd Mawrth, 29 Tachwedd), rhodwyd amser ychwanegol gan sicrhau y gellir cadw'r tri am gyfnod pellach.
Cafodd dau ŵr, 37 a 47 oed, a gwraig 29 oed eu harestio yn Y-Felin-Wyllt, Pen-y-bont ar Ogwr, nos Sadwrn, 26 Tachwedd, ar amheuaeth o gelu genedigaeth plentyn ar ôl i gorff dau fabi gael eu darganfod.
Mae'r ymchwiliad yn parhau ac anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad hwn, ac nad ydynt wedi siarad â'r heddlu eisoes, i gysylltu â ni drwy https://bit.ly/SWPProvideInfo, 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 2200399650.