Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r fenyw a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd ym Mhenrhiwceibr, Aberpennar, wedi'i henwi fel Wendy Setterfield, a oedd yn 76 oed.
Digwyddodd y gwrthdrawiad, a oedd yn cynnwys Ford Focus glas, tua 8.05pm nos Iau (24 Tachwedd) ar Heol yr Eglwys.
Mae teulu Wendy wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol:
“Gyda chalon drom rydym yn cyhoeddi marwolaeth drasig ein mam a'n mam-gu annwyl, Wendy Setterfield, a fu farw nos Iau.
“Roedd Wendy yn fenyw gynnes, garismatig a chymdeithasol. Bydd cynifer o'r gymdeithas yn gweld ei heisiau yn fawr. Mae'n gadael ei mab, ei merch yng nghyfraith a'i hwyres, a hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a'u geiriau caredig yn ystod y cyfnod hwn.
“Hoffem ddiolch i bawb a'i helpodd ar safle'r gwrthdrawiad ddydd Iau. Mae cymuned Penrhiwceibr wedi dangos cymaint o gariad tuag ati ac mae clywed ei ffrindiau'n siarad amdani mor gynnes wedi bod yn gysur mawr.
“Byddwn yn sicrhau y caiff manylion ei hangladd eu rhannu â phawb a oedd yn ei charu.”
Mae dyn lleol 24 oed, a gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth nes y caiff ymholiadau pellach eu gwneud.
Dywedodd Rhingyll yr Heddlu, Darren Westall: "Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Wendy.
“Mae'r ymchwiliad yn parhau, ac rydym am glywed gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu'r ffordd yr oedd y car yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a stopiodd i helpu.
"Rydym hefyd yn apelio am ddeunydd fideo camera dashfwrdd, ffôn symudol neu CCTV a allai gynorthwyo'r ymchwiliad."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu'r cyfeirnod *397365.