Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cynhelir Diwrnod y Rhuban Gwyn, 25 Tachwedd 2022, yn ystod yr un wythnos â dechrau pencampwriaeth Cwpan y Byd Dynion FIFA ac, yn addas ddigon, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi'r ymgyrch drwy drefnu gêm bêl-droed unigryw.
Cynhelir Diwrnod y Rhuban Gwyn, 25 Tachwedd 2022, yn ystod yr un wythnos â dechrau pencampwriaeth Cwpan y Byd Dynion FIFA ac, yn addas ddigon, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi'r ymgyrch drwy drefnu gêm bêl-droed unigryw.
Mewn digwyddiad wedi'i drefnu gan Wasanaeth Cam-drin Domestig Assia y cyngor, bydd staff o Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn mynd benben mewn gêm unigryw i gefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn a helpu i roi diwedd ar gam-drin menywod a merched.
White Ribbon yw'r brif elusen yn y DU sy'n gweithio gyda dynion a bechgyn i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched. Mae dynion sy'n gwisgo’r Rhuban Gwyn yn dangos na fyddant byth yn cyflawni, yn esgusodi nac yn cadw'n dawel am drais gan ddynion yn erbyn menywod.
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru Jeremy Vaughan:
"Rwy'n falch ein bod yn cefnogi ymgyrch #RhubanGwynYDu sy'n rhoi'r cyfle i ni gadarnhau addewid y Rhuban Gwyn i beidio byth â chyflawni, esgusodi na chadw'n dawel am drais gan ddynion yn erbyn menywod.
"Rydym yn cydnabod y gall unrhyw un gael ei gam-drin, ond mae menywod yn fwy tebygol o wynebu trais a cham-drin a gall yr effeithiau fod yn ddinistriol.
"Rwy'n ddiolchgar iawn i'n partneriaid am weithio gyda ni i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched. Mae hyn yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru."
Ychwanegodd y Prif Swyddog Tân, Huw Jakeway QFSM:
"Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi bod yn un o wasanaethau achrededig White Ribbon ers blynyddoedd, ac rydym yn falch o weithio ochr yn ochr â'n partneriaid i godi ymwybyddiaeth o'r #Nod.
"Byddwn yn annog pob dyn i ymuno â'r tîm i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched. Mae'r gêm hon yn ffordd briodol o godi ymwybyddiaeth o'r mater pwysig hwn, yn enwedig am ein bod yn aml yn gweithio ochr yn ochr â'r heddlu a grwpiau cymunedol i atal bygythiad ac effeithiau cam-drin domestig."
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol:
"Mae'n ffordd wych i Wasanaeth Cam-drin Domestig Assia hyrwyddo achos mor bwysig a chodi arian ar ei gyfer.
"Mae Assia y darparu gwasanaeth gwych drwy'r flwyddyn, ac mae'r tîm cyfeillgar a phrofiadol yn cynnig amrywiaeth o gymorth, gan gynnwys cyngor, arweiniad a lloches i'r rheini sy'n wynebu cam-drin domestig.
"Bydd y gêm yn ddigwyddiad cyffrous, ac rydym yn gobeithio'n fawr y daw pobl i gefnogi. Y cwestiwn mawr yw ‘pwy fydd yn ennill?!’"
Cynhelir y gêm bêl-droed elusennol hon na ddylid ei cholli ddydd Gwener 25 Tachwedd 2022, rhwng 1:45pm a 4pm, yng Nghlwb Pêl-droed Pen-y-Bont, Parc Bryntirion, Ffordd Llangewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4JU, a chodir tâl mynediad o bunt.
Caiff yr holl arian a godir, gan gynnwys arian y raffl, ei ddefnyddio i brynu eitemau diogelwch i ddioddefwyr cam-drin domestig.