Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fel rhan o ymgyrch yfed a gyrru Caerdydd a'r Fro, mae Heddlu De Cymru ynghyd â 13 o dafarndai a bwytai wedi lansio Cynllun DES (Gyrrwr Dynodedig).
Yn ystod cyfnod prysur y Nadolig, bydd yr 13 o safleoedd trwyddedig yn cynnig diodydd meddal am ddim i yrwyr dynodedig. Gyrrwr dynodedig yw rhywun sy'n ymwrthod rhag yfed alcohol er mwyn bod yn yrrwr cyfrifol.
Nod y cynllun yw hyrwyddo yfed yn gyfrifol mewn perthynas â diogelwch ar y ffyrdd. Clwb Golff Sir Forgannwg (a welir yn y llun) oedd un o'r safleoedd cyntaf i gofrestru ar gyfer y cynllun newydd, yn ogystal â'r Philharmonic, Brewhouse a Revolution, ymysg nifer o safleoedd eraill ledled Caerdydd a'r Fro.
Dywedodd Claire Dewhurst, Swyddog Trwyddedu Heddlu De Cymru:
“Rwy'n falch iawn o lansio ‘Cynllun (Gyrrwr Dynodedig) DES ydw i', sef y cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae cymaint o safleoedd wedi ymuno â ni yn ystod y cyfnod byr, i gefnogi'r fenter werth chweil hon. Byddwch yn arwr! Byddwch yn DES! Os hoffech chi ymuno â'r cynllun, cysylltwch â'ch tîm trwyddedu lleol.
“Mae'r cynllun hwn eisoes wedi bod yn llwyddiannus iawn. Rydym yn annog pawb i gymryd rhan, yn enwedig dros gyfnod yr ŵyl wrth i bawb fynd allan i fwynhau eu hunain. Mae bod yn yrrwr dynodedig yn gallu bod yn faich weithiau, ond rydym yn gobeithio y bydd y cynllun hwn yn annog mwy o bobl i fod yn ymwybodol o yfed a gyrru a phwysigrwydd bod yn ddiogel ar y ffyrdd.”
Dywedodd Russell Thomas, Rheolwr Clwb Golff Sir Forgannwg:
“Rydym yn falch o fod yn un o'r safleoedd cyntaf i gofrestru ar gyfer cynllun ‘DES’. Rydym yn gwbl gefnogol o ymdrechion Heddlu De Cymru i hyrwyddo gyrru'n ddiogel, ac yn gobeithio y bydd y bobl leol yn eu cefnogi hefyd.”
Ochr yn ochr â lansiad cynllun DES, mae Heddlu De Cymru hefyd wedi dechrau Ymgyrch Terfyn, sydd â'r nod o leihau nifer y bobl sy'n gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau a chadw'r ffyrdd yn ddiogel. Yn ystod wythnos gyntaf yr ymgyrch yn unig, cafodd 21 o bobl eu harestio am yfed a gyrru, ac mae'r troseddau wedi'u trosglwyddo i'r system llysoedd.
Os oes ennych chi fel safle ddiddordeb mewn cofrestru ar gyfer y cynllun, cysylltwch â thîm trwyddedu Heddlu De Cymru. Ceir rhestr lawn o'r safleoedd sy'n cymryd rhan isod.
Os hoffech gofrestru â'r cynllun, cysylltwch â thîm trwyddedu Heddlu De Cymru.
Mae'r safleoedd sy'n gysylltiedig â chynllun DES ar hyn o bryd yn cynnwys: