Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:29 15/11/2022
Mae saith o bobl wedi'u cyhuddo o dresmasu gwaethygedig yn dilyn protest ym Manc Barclays yng nghanol dinas Caerdydd brynhawn ddoe (Dydd Llun 14 Tachwedd).
Mae'r pedwar dyn a'r tair menyw wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth i ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar 16 Rhagfyr.
Y saith person yw:
Pamela Williams, 74 oed, o Lanidloes, Powys.
Sarah Wilding, 55 oed, o Drefyclo, Powys.
Christine Welch, 69 oed, o Broseley, Swydd Amwythig.
Mark Stokes, 62 oed, o Groesoswallt, Swydd Amwythig.
Jamie Russell, 48 oed, o Amwythig, Swydd Amwythig.
Dougall Purce, 59 oed, o Amwythig, Swydd Amwythig.
Michael Bastow, 54 oed, o Groesoswallt, Swydd Amwythig.