Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r amgylchiadau yn ymwneud â gwrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol a ddigwyddodd oddeutu 2.15pm ddydd Iau 6 Hydref, ac a oedd yn cynnwys Ford Fiesta lliw bwrgwyn a Nissan Qashqai lliw arian ar yr A4093 Hendreforgan, Gilfach Goch.
Mae teulu Morgan Osborne, 18 oed o Donypandy, a fu farw yn dilyn y gwrthdrawiad, wedi talu teyrnged i'w “mab cariadus a llawn gofal”:
“Roedd Morgan yn meddwl y byd i ni, roedd yn ffrind gorau, yn ogystal â bod yn fab i ni.
“Roedd yn llawn cariad a gofal a byddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un. Mae'n anodd cyfleu pa mor drist ydyn ni a beth roedd yn ei olygu i ni. Roedd yn berson mor ddoniol a bob amser yn gwneud i ni chwerthin.
“Roedd yn byw bywyd i'r eithaf ac wrth ei fodd â cheir a beiciau modur. Roedd yn caru ei deulu gymaint ac yn mwynhau treulio amser yn chwarae gemau cyfrifiadurol gyda'i frawd a'i chwiorydd.
“Roedd ganddo grŵp da o ffrindiau ac roedd yn adnabyddus iawn yn y gymuned a phawb yn ei garu. Bydd pawb a oedd yn ei adnabod yn ei golli'n arw.
“Mae'n anodd disgrifio'r golled rydym yn delio â hi. Cymerwyd Morgan yn rhy gynnar o lawer ac rydym yn ei golli bob dydd.”
Mae Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu De Cymru yn apelio am unrhyw dystion neu unrhyw un a welodd y naill gerbyd neu'r llall neu'r ffordd roeddent yn cael eu gyrru cyn y gwrthdrawiad neu unrhyw un sydd â deunydd fideo o gamera dashfwrdd i gysylltu â nhw gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2200338805.
Ewch i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/us/cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd