Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rhoddwyd gorchmynion atafaelu gwerth dros gyfanswm o £6 miliwn i dri dyn o Abertawe sydd eisoes wedi'u dedfrydu mewn cysylltiad â throseddau masnachu mewn cyffuriau a lladradau. Roedd hyn yn cynnwys car Lamborghini a Range Rover sydd hefyd wedi'u hatafaelu.
Ystyriodd y gwrandawiad, a gynhaliwyd yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener 18 Tachwedd 2022, dri dyn o Abertawe, a oedd yn rhan o gang llinellau cyffuriau a oedd yn gwerthu cyffuriau anghyfreithlon. Cawsant eu dedfrydu i garchar yn 2021 am gyfanswm o 39 mlynedd a 3 mis ar ôl ymchwiliad a barodd 15 mis.
Cafodd Daniel Harris, 40 oed o Sgeti ei ddedfrydu i 16 mlynedd, cafodd Leon Ley, 34 oed o Ffordd Caerfyrddin yn Abertawe ei ddedfrydu i 11 mlynedd a 3 mis a chafodd Dale Martin, 28 oed o Townhill ei ddedfrydu i 12 mlynedd.
Roedd Ymgyrch Tilbury yn ymchwiliad i fasnachu mewn cyffuriau a gododd o ladrad a gwblhawyd, fel y gwyddom erbyn hyn, mewn cysylltiad â grŵp troseddau a oedd yn llenwi De Cymru â chyffuriau Dosbarth A. Roedd yr ymchwiliad troseddol yn gymhleth a chafodd wyth unigolyn eu dyfarnu'n euog o fasnachu mewn cyffuriau a throseddau lladradau o ganlyniad iddo. Dyfarnwyd dedfrydau o garchar am gyfanswm o 74 o flynyddoedd.
Hyd yn hyn, me gweithrediadau atafaelu wedi sicrhau buddiannau cronnol o ymddygiad troseddol o £6,018,395.85 a chyfanswm asedau adenilladwy o £267,957.06.
Mae'r mater atafaelu terfynol ar y gweill, gyda buddiannau disgwyliedig o £798,928.15 ac asedau adenilladwy o £264,501.56.
Mae'r asedau adenilladwy yn cynnwys Lamborghini a Range Rover yn ogystal â charafanau moethus ac arian parod.
![]() |
![]() |
![]() |
Roedd y Lamborghini hwn ymhlith yr asedau a atafaelwyd | Y Range Rover a atafaelwyd | Roedd un o'r diffynyddion yn arfer gyrru car â phlât cofrestru yn dweud 'Crime Pays' |
Dywedodd Jo Williams o Heddlu De Cymru, yr Ymchwilydd Ariannol a sicrhaodd y gorchmynion: "Mae'n dangos y gwaith ardderchog a wnaed gan yr Uned Troseddau Economaidd sydd wedi cefnogi ymchwiliad Ymgyrch Tilbury.
"Roedd yr unigolion dan amheuaeth eisoes wedi'u cael yn euog ac wedi derbyn dedfrydau sylweddol, felly mae dilyn hynny gyda lefelau anhygoel o orchmynion o dan y Ddeddf Enillion Troseddau yn wych ac yn gam pendant ymlaen tuag at darfu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol.
"Rydym hefyd wedi cael delwedd o'r plât rhif roedd Daniel Harris yn ei ddefnyddio yn ôl yn 2011 pan oedd yn destun Ymgyrch Cougar. Fel y gwelir, ar yr adeg honno roedd ei blât rhif preifat yn cynnwys y geiriau 'Crime Pays', rhywbeth rwy'n siwr y mae'n edifar ganddo nawr!"