Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd hyfforddwr nofio, a gamddefnyddiodd ei rôl i gam-drin pum merch ifanc yn rhywiol, ei ddedfrydu i 25 o flynyddoedd yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, 11 Tachwedd.
Cafwyd Robert Rixon, 75 oed, o Borthcawl, yn euog o 28 o gyhuddiadau o ymosodiad rhywiol, gan gynnwys un cyhuddiad o drais.
Pan gyflawnwyd y troseddau cyntaf, a ddigwyddodd yn Ysgol Gyfun Porthcawl rhwng 2000 a 2005, roedd Rixon yn hyfforddwr nofio. Cyflawnwyd y troseddau yn erbyn tair merch pan oeddent rhwng 11 a 13 oed.
Yn ddiweddarach, gwnaeth Rixon logi pwll nofio yn Ysgol Heronsbridge ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle bu'n cynnal clwb achub bywyd rhwng 2013 a 2015. Nodwyd bod Rixon wedi ymosod yn rhywiol ar ddwy ferch arall, a oedd hefyd rhwng 11 a 13 oed, yn y clwb tua 2015.
Lansiwyd ymchwiliad yn 2018 ar ôl i un o'r menywod roi gwybod i'r heddlu ei bod wedi cael ei cham-drin gan Rixon pan oedd yn blentyn. Yn dilyn hyn, nododd yr heddlu bedwar dioddefwr arall a arweiniodd at gynnal ymchwiliad cymhleth a manwl gyda nifer sylweddol o honiadau o gam-drin rhywiol difrifol, gan gynnwys trais.
Dywedodd swyddog yn yr achos, y Ditectif Gwnstabl Tony Daniel:
“Hoffwn dalu teyrnged arbennig i'r dioddefwyr a ddangosodd ddewrder anhygoel drwy gydol yr ymchwiliad heddlu hwn.
“Gobeithio y bydd gwybod bod Rixon yn y carchar yn galluogi'r pum menyw hyn i symud ymlaen gyda'u bywydau gan wybod ei fod wedi'i ddwyn o flaen ei well o'r diwedd am ei droseddau erchyll ac anesgusodol.
“Mae cymorth ar gael i bob dioddefwr trais rhywiol, a byddem yn annog pob dioddefwr, ni waeth pryd y digwyddodd y drosedd, i roi gwybod amdani.”
Gellir rhoi gwybod am ymosodiadau rhyw neu achosion o gamdriniaeth drwy 101, neu drwy gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
I gael gwybodaeth, canllawiau a sicrwydd, ewch i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/
Mae Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) yn fan lle gallwch fynd ar ôl treisio neu ymosodiad rhywiol i gael cymorth meddygol, ymarferol ac emosiynol cyfrinachol gan feddygon, nyrsys a gweithwyr cymorth arbenigol.