Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae David Crapper, 38, wedi cael ei ddedfrydu i 17 o flynyddoedd o garchar, gyda phedair blynedd estynedig dan drwydded.
Dedfrydwyd ei wraig, Kim Crapper, 39, i chwe blynedd o garchar, gyda thrwydded estynedig o dair blynedd.
Daeth y troseddau i'r amlwg wedi i'r dioddefwr, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, ddweud wrth ffrind am eu hymddygiad a chafodd y ddau eu harestio.
Plediodd y diffynyddion yn euog i gyhuddiadau o ymosod yn rhywiol ar blentyn o dan 13 oed, ymosod yn rhywiol, gwneud i blentyn gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol neu ei ysgogi i wneud hynny, a chymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol ym mhresenoldeb plentyn. Plediodd David Crapper yn euog hefyd i gyhuddiad o dreisio a gwneud i blentyn wylio gweithred rywiol.
Cawsant eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener (18 Tachwedd).
Clywodd y llys i'r gamdriniaeth ddechrau pan oedd y ferch yn ifanc iawn gan barhau am sawl blwyddyn.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Christine Edmunds o Heddlu De Cymru: “Yn gyntaf, hoffwn gydnabod dewrder y dioddefwr i gysylltu â'r heddlu.
“Rydym yn cymryd pob ymosodiad rhywiol y rhoddir gwybod i ni amdano o ddifrif ac yn annog dioddefwyr i gysylltu â'r heddlu, ni waeth pryd y digwyddodd, gan deimlo'n hyderus y byddant yn cael eu trin â pharch ac urddas ac yr ymchwilir yn llawn i'w honiad.
“Dywedodd y barnwr ei bod yn anodd meddwl am drosedd fwy erchyll ac nad yw'r diffynyddion wedi dangos unrhyw edifeirwch gwirioneddol.
“Roeddem yn benderfynol o gael cyfiawnder i'r dioddefwr ac, felly, gwnaethom weithio'n agos gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron er mwyn cyrraedd y nod hwnnw.
“Mae cymorth a chefnogaeth ar gael i bob dioddefwr trais rhywiol, a byddem yn annog pob dioddefwr i gysylltu â'r heddlu.”
Gellir rhoi gwybod am ymosodiadau rhywiol neu achosion o gamdriniaeth i'r heddlu, neu drwy gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
🗪Sgwrs Fyw (9pm-4pm) Tudalen gartref | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
💻Rhowch Wybod Ar-lein Riportio | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
📧 E-bostiwch [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.