Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:12 17/11/2022
Mae Heddlu De Cymru wedi croesawu canfyddiadau arolygiad gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) ynghylch y modd mae'r heddlu'n delio â llygredd ac yn fetio swyddogion a staff.
Arolygwyd cyfanswm o 12 o heddluoedd ac roedd Heddlu De Cymru yn un o ddau a gafodd radd dda.
Edrychodd yr arolygiad ar ba mor effeithiol y mae heddluoedd yn fetio eu swyddogion a'u staff, pa mor effeithiol maent yn diogelu'r wybodaeth a'r data a gedwir ganddynt a pha mor dda yr ymdrinnir â llygredd.
Croesawodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan y gwaith craffu annibynnol ar weithdrefnau er mwyn dileu llygredd a sicrhau bod yr holl swyddogion a staff yn cael eu fetio'n addas. Dywedodd:
“Rhaid i'r cyhoedd allu ymddiried yn llwyr yn swyddogion yr heddlu ac fel Prif Gwnstabl, rwyf wedi esbonio na fyddaf yn goddef ymddygiad amhriodol.
“Nid oes lle yng ngwasanaeth yr heddlu i gasineb at fenywod, hiliaeth nac unrhyw fath arall o ymddygiad gwahaniaethol.
“Ers dod yn Brif Gwnstabl, mae nifer o unigolion wedi cael eu diswyddo am gamfanteisio ar y cyfrifoldeb personol a'r pŵer sydd gennym fel swyddogion yr heddlu. Mae angen i mi allu ymddiried yn y bobl sy'n gweithio ar fy rhan ac ni ddylai fod gen i unrhyw amheuon yn hynny o beth.
“Rwy'n gwybod bod y mwyafrif llethol o'r swyddogion a staff sy'n gweithio i Heddlu De Cymru yn ymddwyn yn wych ac yn gweithio'n ddiflino i ddiogelu'r cyhoedd. Mae'r nifer prin iawn hynny sy'n dewis torri'r safonau y disgwylir ohonynt yn tanseilio'r holl waith hwn ac yn erydu hyder y cyhoedd ynom.
“Dyna pam mae'n rhaid trin unrhyw achos o dorri safonau ymddygiad proffesiynol yn ddifrifol iawn a chyhoeddi canlyniadau gwrandawiadau camymddwyn difrifol i sicrhau tryloywder.
“Rwy'n ymfalchïo'n fawr yn y gwaith a wnawn yn ddyddiol i helpu pobl agored i niwed, dwyn troseddwyr o flaen eu gwell a diogelu cymunedau rhag niwed ac mae'r adborth cadarnhaol rydym wedi'i gael gan yr asesiad annibynnol, allanol o'r ffordd rydym yn hyrwyddo diwylliant moesegol ac yn herio ymddygiad amhroffesiynol yn galonogol. Daw'r gydnabyddiaeth ddiweddaraf o'n gwaith yn y maes hwn ar ffurf asesiad cadarnhaol o'r ffordd rydym yn delio â fetio ac atal llygredd sy'n hollbwysig i sicrhau bod gennym y gallu i fod yn rhagweithiol wrth nodi ymddygiad amhriodol ac annerbyniol, a delio ag ef.”
Mae'r heddlu'n arwain y maes plismona yn y DU ar nodi a mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle, gan annog dioddefwyr i ddod ymlaen i ddelio â'r ymddygiad hwn, a'r camddefnydd a wneir o'u swydd at ddibenion rhywiol. Caiff technoleg atal llygredd arloesol hefyd ei defnyddio i fonitro systemau cyfrifiadurol i ddynodi swyddogion a staff a all fod yn dangos arwyddion o ymddygiad rheibus neu amhriodol er mwyn ymyrryd yn gynnar.
Canfu arolygiad HMICFRS diweddar arall fod ‘Heddlu De Cymru yn hyrwyddo diwylliant moesegol, gydag arweinyddiaeth glir sy'n cefnogi gwelliannau trwy ddysgu’. Aeth ymlaen i ddatgan: ‘Dywedodd staff ymhob rhan o'r heddlu wrthym fod y prif gwnstabl a'r uwch arweinwyr yn arddangos arweinyddiaeth glir ar faterion moesegol’ a ‘Dywedodd staff wrthym y byddent yn teimlo'n hyderus ac yn cael eu cefnogi os byddai angen iddynt herio ymddygiad amhroffesiynol neu roi gwybod amdano’.
Ychwanegodd Mr Vaughan:
“Mae'r adborth annibynnol hwn yn bwysig gan ei fod yn dweud wrtha i fod ein gweithlu'n teimlo'n hyderus i herio ymddygiad amhroffesiynol. Mae hyn yn hanfodol bwysig er mwyn i ni lwyddo i ddileu camymddwyn a llygredd a chreu newid diwylliannol parhaol.
“Mae'r sgwrs genedlaethol am ymddygiad yr heddlu yn un bwysig iawn ac rwy'n ymroi'n llwyr i sicrhau ein bod ni'n cynnal y safonau ymddygiad uchaf.”