Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:21 26/11/2022
Am tua 4.30am heddiw (dydd Sadwrn 26 Tachwedd), bu gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar yr A473 rhwng Llanharan a Pharc Busnes Tanysguboriau.
Roedd y gwrthdrawiad, a ddigwyddodd ar y rhan o'r ffordd rhwng High Corner a Chanolfan Diemyntau Cymru, rhwng car Audi A3 coch a cherbyd nwyddau trwm.
Bu farw un dyn, ac mae un fenyw mewn cyflwr difrifol wael yn yr ysbyty. Roedd y ddau yn teithio yn yr Audi.
Mae eu perthnasau agosaf wedi'u hysbysu.
Hoffem ddiolch i'r gymuned am ei hamynedd tra bod y ffordd yn parhau ar gau.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio i dystion i'r gwrthdrawiad, neu'r rheini sydd â deunydd fideo o gamera dashfwrdd o'r ardal oddeutu amser y gwrthdrawiad, gysylltu drwy ddyfynnu digwyddiad *398960.
🗪 Sgwrs Fyw (9pm-4pm) https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻Rhowch Wybod Ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📧 E-bostiwch [email protected]
📞 101