Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn fuan cyn 4.30pm ddydd Sadwrn 5 Tachwedd, galwyd Heddlu De Cymru i adroddiadau o ffrwgwd rhwng dau ddyn yn Stadiwm y Principality.
Cafodd y ddau ddyn, 20 oed a 32 oed, eu harestio am ymosodiad, ac maent ar fechnïaeth ac wedi'u rhyddhau o dan ymchwiliad yn y drefn honno wrth i ymholiadau barhau.
Dywedodd PC Georgina Charlton o Heddlu De Cymru: “Mae gŵr 80 oed a gafodd ei anafu yn parhau i fod yn yr ysbyty yn cael triniaeth am anaf difrifol i'w wddf.
“Mae'r gŵr a'i deulu yn ddiolchgar am y gefnogaeth maen nhw wedi'i chael gan y gymuned rygbi.
“Dymuna Heddlu De Cymru ddiolch i'r tystion sydd eisoes wedi dod ymlaen gyda gwybodaeth yn dilyn sylw yn y cyfryngau i'r digwyddiad hwn.
“Rydym nawr yn awyddus i glywed gan unrhyw un y gallai fod ganddynt ddeunydd fideo ffôn symudol o'r hyn a ddigwyddodd a'r eiliadau yn arwain at yr adeg y cafodd y gŵr oedrannus ei fwrw drosodd.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â deunydd fideo gysylltu â Heddlu De Cymru ar-lein yma https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/ neu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod *375175.
Neu, gellir cyflwyno deunydd fideo ffôn symudol ar-lein yma.
Datganiad Undeb Rygbi Cymru:
Dywedodd Steve Phillips, Prif Weithredwr Grŵp Undeb Rygbi Cymru: “Mae Undeb Rygbi Cymru yn ymuno â Heddlu De Cymru gyda'u hapêl am ragor o wybodaeth a deunydd fideo o'r digwyddiad. Diolch i'n stiwardiaid a'r swyddogion ymateb yn y lleoliad am ymateb mor gyflym ac mae ein meddyliau gyda'r unigolyn diniwed a'i deulu. Rydym yn condemnio ymddygiad y bobl dan sylw ac yn gresynu'n fawr at y digwyddiad ddydd Sadwrn. Dymunwn wellhad buan i'r unigolyn.
“Ni allaf roi sylwadau pellach ar y digwyddiad gan fod ymchwiliad yr heddlu'n parhau, ond pan fydd yr ymchwiliad wedi'i gwblhau, ond bydd trefniadau ar waith i sicrhau na fydd y sawl sy'n cael eu canfod yn gyfrifol yn cael eu croesawu'n ôl i Stadiwm y Principality.
“Nid oes lle i unrhyw fath o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y byd rygbi yng Nghymru, ac er nad yw'r digwyddiad ynysig hwn yn cynrychioli mwyafrif y cefnogwyr sy'n mynd i wylio gemau yn Stadiwm y Principality, rydym yn ailadrodd ein hapêl i gefnogwyr fwynhau eu hunain yn gyfrifol ddydd Sadwrn hwn wrth fynd i'r gêm yn erbyn yr Ariannin ac yn ystod y gemau sy'n dilyn.