Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ffigurau'n awgrymu bod pobl a fu'n siopa ar-lein dros gyfnod y Nadolig wedi colli mwy na £15m i dwyllwyr y llynedd.
Dangosodd achosion a gafodd eu hadrodd i Action Fraud a'u dadansoddi gan y Ganolfan Cudd-wybodaeth Twyll Genedlaethol fod siopwyr ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi colli £15.3m rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Ionawr 2022 oherwydd sgamiau. Mae ffigurau'n dangos bod, ar gyfartaledd, dioddefwyr sgamiau siopa ar-lein dros y Nadolig wedi colli £1,000 yr un.
Gwnaethant hefyd ddangos mai'r rheini rhwng 19 a 25 oed oedd fwyaf tebygol o gael eu twyllo.
Roedd y sgamiau yn cynnwys:
- siopwr a gollodd fwy na £150 wrth geisio prynu ffôn symudol ar y cyfryngau cymdeithasol
- siopwr arall a gafodd ei dwyllo i dalu mwy na £7,000 wrth geisio prynu cerbyd gwersylla ar-lein
- collodd trydydd dioddefwr bron i £500 wrth geisio prynu esgidiau ar lwyfan cyfryngau cymdeithasol
Mae Action Fraud a'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn annog pobl i ddiogelu eu cyfrifon, i bwyllo cyn prynu ac i ddefnyddio dulliau talu diogel wrth siopa ar-lein. Cynghorion:
Am ragor o gyngor ar siopa ar-lein yn ddiogel, ewch i: https://www.ncsc.gov.uk/guidance/shopping-online-securely