Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:34 11/11/2022
Heddiw, cynhaliwyd gwasanaeth Coffa aml-ffydd ym mhencadlys yr Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr – dan arweiniad Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, a chafodd ei weinyddu gan brif gaplan yr heddlu, y Parchedig Glynne James.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Eleni, llwyddodd ein teulu plismona i ddod ynghyd unwaith eto ar gyfer ein gwasanaeth Coffa blynyddol i gydnabod yr aberth a wnaed gan bawb a fu farw mewn gwasanaeth milwrol, neu wrth wasanaethu ein cymunedau.
“Mae'n ddigwyddiad hynod bwysig i'r teulu, ffrindiau a chydweithwyr a wahoddwyd i ymuno â ni wrth i ni goffáu'r holl fywydau a gollwyd.
“Fel mewn blynyddoedd blaenorol, gwnaethom hefyd dalu teyrnged i'r rheini a aberthodd eu bywydau yn ystod y Rhyfeloedd Byd, gan gynnwys y rheini o'n heddluoedd rhagflaenol a fu'n gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol, y Fyddin a'r Awyrlu Brenhinol, ac yn y Llynges Fasnachol. Bu farw rhai ohonynt ar ddyletswydd fel swyddogion yr heddlu.
“Yn eu mysg roedd y Cwnstabl Gwirfoddol Robert Bernard Bowran, a oedd yn beilot yn yr Awyrlu Brenhinol yn 1942. Lladdwyd Robert ar 27 Mai y flwyddyn honno, wrth gymryd rhan mewn ymarfer hyfforddi gyda'r Fyddin, pan hedfanodd ei awyren ymladd i mewn i lethr bryn yn Swydd Stafford. Roedd yn 27 oed.
“Mae stori Robert yn un enghraifft o ddewrder ac aberth personol a goffawyd yn ystod y gwasanaeth heddiw. Byddwn yn eu cofio”
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael:
“Ledled cymunedau De Cymru a thu hwnt, mae seremonïau fel hyn yn dwyn pobl ynghyd wrth i ni gofio am bawb a wnaeth yr aberth eithaf.
“Ar 11 Tachwedd, byddwn yn eu cofio wrth i ni nodi diwedd yr ymladd ar y diwrnod hwnnw yn 1918, a byddwn hefyd yn cofio am bawb a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd ac mewn sawl gwrthdaro ers hynny.
“Mae'r gwrthdaro parhaus yn Wcráin yn ein hatgoffa o'r aberth a wnaed mewn cyfnod mor anodd ond hefyd am y cydberthnasau gwerthfawr sydd gennym â'n hanwyliaid, ein cydweithwyr a'n ffrindiau.
“Cofiwn yn benodol am y cydweithwyr hynny a gollwyd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae heddiw yn gyfle i anrhydeddu a mynegi ein diolchgarwch i bawb sydd wedi rhoi cymaint er budd y rhai sydd wedi'u gadael ar ôl.”
Gallwch ddarllen mwy am y Cwnstabl Gwirfoddol Robert Bowran yn Trefn y Gwasanaeth.