Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae corff wedi'i ddarganfod yn dilyn chwiliad am Casey Coulton, 18 mlwydd oed, a oedd ar goll, a welwyd ddiwethaf yn oriau mân y bore ddydd Sul 13 Tachwedd. Gallwn gadarnhau bod y corff wedi'i adnabod yn ffurfiol fel Casey.
Dywedodd Joanne Edwards, mam gariadus cariad Casey:
"Roedd Casey yn garedig, cariadus ac yn ŵr bonheddig anhunanol.
"Roedd ei gariad, Charlie, ei frawd Nick, fi a fy mhartner Leighton yn ei garu.
"Roedd ei ffrindiau i gyd yn ei garu ac roedd yn llawn egni.
"Mae ein calonnau wedi torri.
"Hoffwn ddiolch i The Baker Project a phawb sydd wedi helpu i chwilio am Casey.
"Rydym am i bawb ei gofio fel unigolyn caredig a gofalgar.
"Casey, byddi yn ein calonnau am byth."
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Matt Hicks:
“Galwyd swyddogion yn dilyn adroddiadau bod corff wedi'i ddarganfod ger afon Taf yn Abercynon tua 10.30am ddoe.
"Mae'r corff wedi'i adnabod yn ffurfiol ac yn anffodus, adnabuwyd y corff fel Casey, o Aberdâr.
"Cynhaliwyd chwiliadau eang i ddod o hyd i Casey ac archwiliwyd pob adroddiad iddo gael ei weld o bosibl. Mae ymchwiliad yn mynd rhagddo i'r amgylchiadau sy'n gysylltiedig â'i farwolaeth, sy'n cael ei drin fel marwolaeth anesboniadwy.
“Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Casey yn y cyfnod anodd iawn hwn. Bydd swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig yn parhau i roi'r newyddion diweddaraf a chymorth i'r teulu a ffrindiau.
“Diolch i bawb sydd wedi rhannu ein hapeliadau.”