Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:25 29/11/2022
Mae dyn a ymosododd ar yrrwr tacsi ac a achosodd anaf i'w ben sydd wedi newid ei fywyd wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd.
Cafodd Lewis Liddell, o Bontprennau, Caerdydd, ei ddyfarnu'n euog o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol yn dilyn treial yn Llys y Goron Caerdydd.
Digwyddodd yr ymosodiad yn ystod oriau mân y bore ar 19 Rhagfyr, 2021, wedi i'r dyn, 34 oed, fod yn yfed yng nghanol dinas Caerdydd.
Gwrthododd sawl gyrrwr tacsi ei ddanfon gan ei fod mor feddw, ond llwyddodd Liddell i gael tacsi o Heol Eglwys Fair i Stryd Clifton, y Rhath, lle y digwyddodd yr ymosodiad.
Gwnaeth rhywun a oedd yn mynd heibio ymyrryd ond tarodd Liddell y dioddefwr yn ei ben, a disgynnodd i'r llawr.
Roedd deunydd fideo teledu cylch cyfyng yn allweddol yn ystod yr ymchwiliad gan fod symudiadau Liddell wedi'u nodi arno – o'i ymddygiad afreolaidd yng nghanol y ddinas hyd at yr eiliad y cafodd ei arestio.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Geraint Strakis:
“Dioddefodd Mr Ali, 59, ymosodiad direswm yn ystod oriau mân y bore tra'n cyflawni swydd yr oedd yn ei charu. Golyga'r ymosodiad y bu'n rhaid iddo roi'r gorau i weithio fel gyrrwr tacsi, swydd y bu'n ei chyflawni am fwy nag 20 o flynyddoedd, ac mae'r ymosodiad wedi dinistrio ei fywyd.
“Cafodd Lewis Liddell ei arestio yn fuan wedi'r digwyddiad ac mae nawr yn dechrau ar ddedfryd o wyth mlynedd yn y carchar.
“Hoffwn ddiolch i'r tystion a gysylltodd, gan gynnwys un tyst allweddol a gysylltodd yn sgil apêl gyhoeddus uniongyrchol am wybodaeth.
"Hoffwn hefyd ddymuno pob dymuniad da i Mr Ali a'i deulu wrth iddynt barhau i adfer wedi'r digwyddiad ofnadwy hwn.”
Cafodd y treial ei gynnal ym mis Mai a dedfrydwyd Liddell ddydd Iau 24 Tachwedd, 2022.