Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:00 24/11/2022
Cafodd yr Adolygiad Ymarfer Plant yn dilyn marwolaeth Logan Mwangi ei gyhoeddi heddiw.
Gwnaeth yr adolygiad, a gafodd ei gomisiynu gan Fwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg, archwilio cyfraniad asiantaethau amrywiol, gan gynnwys plismona, cyn llofruddiaeth Logan, a oedd yn bum mlwydd oed, yn ei gartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr fis Gorffennaf 2021.
Gellir darllen yr adroddiad llawn ar wefan Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg.
Datganiad gan Uwcharolygydd Marc Attwell, ar ran Heddlu De Cymru:
Yn gyntaf, rydym yn parhau i feddwl am Logan a phawb a oedd yn ei adnabod ac yn ei garu.
Roedd y gymuned yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr a chymunedau ehangach wedi'u syfrdanu a'u brawychu gan ei farwolaeth drasig, ac mae'n anodd dirnad bod y rheini a ddylai fod wedi ei ddiogelu wedi cipio ei fywyd oddi arno.
Rwy'n ddiolchgar i swyddogion yr heddlu a oedd yn gysylltiedig â'r achos – o'r swyddogion a fynychodd y digwyddiad cychwynnol a wynebodd y golygfeydd mwyaf trawmatig posibl, i'r tîm o dditectifs a weithiodd yn ddiflino ar yr ymchwiliad er mwyn dwyn y rheini a oedd yn gyfrifol am y drosedd ofnadwy hon o flaen eu gwell.
Yn unol â'n hawydd i ddiogelu'r rheini sydd ein hangen fwyaf, mae Heddlu De Cymru wedi cydweithredu'n llwyr â'r adolygiad a gafodd ei gomisiynu gan y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol, ac rydym yn croesawu'r cyfle a gaiff pob asiantaeth i ddatblygu'r trefniadau sydd gennym ar waith i ddiogelu plant rhag niwed. Dyma'r brif flaenoriaeth o hyd.
Canfu'r adolygiad fod yr heddlu wedi ymateb i bob cais am help, i bryderon gan asiantaethau a oedd yn gysylltiedig â'r achos ac i aelodau o'r cyhoedd mewn modd amserol a sensitif.
Byddwn yn parhau i weithio gydag ystod o weithwyr proffesiynol i sicrhau ei bod yn bosibl gwneud penderfyniadau gwybodus am unigolion a phlant sy'n wynebu risg o gael eu cam-drin.
Mae gan gymunedau rôl allweddol i'w chwarae hefyd ac mae'n rhaid iddynt ddangos hyder o ran eu gallu i roi gwybod am unrhyw bryderon am blentyn, a theimlo'n hyderus yr ymdrinnir â'r wybodaeth a ddarperir ganddynt.