Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:42 04/11/2022
Creodd Joanne Hughes ei chwmni cyfrifyddiaeth ei hun i ofalu am faterion treth cleientiaid a gweithredu fel “cyfrifydd” iddynt.
Yn lle hynny, twyllodd Hughes dri chwmni i gymryd rhan mewn sgam talu treth.
Rhwng 2014-2018, llwyddodd Hughes i ddwyn £280,000 oddi wrth dri busnes bach, gan roi sicrwydd iddynt fod eu taliadau yn cael eu trosglwyddo i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC) ond eu bod, mewn gwirionedd, yn cael eu talu i mewn i'w chyfrifon banc ei hun yn hytrach na chael eu hanfon ymlaen.
Sefydlwyd ymchwiliad yn 2019 ar ôl i un o gyfrifwyr newydd un o'r busnesau roi gwybod iddynt am gyflwr “difrifol” eu cyfrifon a bod rhywbeth yn mynd ymlaen.
Plediodd y wraig 48 oed yn euog o'r tri chyhuddiad o dwyll a chafodd ei dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd heddiw (Dydd Gwener Tachwedd 4 2022).
Cafodd ei charcharu am bedair blynedd.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Dan Parry: “Ysbeiliodd Hughes ar ei dioddefwyr, rhai ohonynt a oedd yn ei hystyried fel cyfaill, am ei bod hi'n meddwl y byddai'n llwyddo gyda'i thwyll.
“Roedd wir yn gyfres groengaled o dwyllo pobl a ddylai fod wedi gallu ymddiried mewn cyfrifydd i weithredu er eu lles ariannol."
“Baswn yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw amheuon eu bod nhw neu anwyliaid yn cael eu targedu gan dwyllwyr i roi gwybod i'r heddlu neu i Action Fraud, er mwyn i gyflawnwyr y fath droseddau barhau i gael eu trin gan y llys.”
DIWEDD
Atodir ffotograff o Joanne Hughes