Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafwyd Josif Nushi a Mihal Dhana yn euog o lofruddiaeth a Hysland Aliaj yn euog o ddynladdiad gan reithgor yn Llys y Goron Casnewydd.
Yr ymchwiliad hwn oedd un o'r ymchwiliadau mwyaf cymhleth ac estynedig a gynhaliwyd erioed gan Heddlu De Cymru gydag ymholiadau'n cael eu cynnal ledled y DU ac Ewrop, gan gynnwys arestiadau yn Albania, Ffrainc a'r Almaen.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark O'Shea o Heddlu De Cymru: “Mae ein meddyliau gyda theulu Tomasz Waga a oedd yn fab, yn frawd, yn dad ac yn bartner annwyl.
“Roedd yn ddyn ifanc a wnaeth ddewisiadau gwael ac roedd yng Nghaerdydd am y rheswm anghywir y diwrnod hwnnw. Fodd bynnag, nid yw hynny'n esgusodi'r hyn a ddigwyddodd ar 28 Ionawr y llynedd. Digwyddiadau sydd wedi gadael teulu'n galaru a babi bach heb dad.”
Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Tomasz ac ail ddyn, Carl Davies, wedi teithio i Gaerdydd o Lundain ddydd Iau, 28 Ionawr y llynedd i dorri i mewn i ffatri canabis yn 319 Heol Casnewydd. Rhybuddiwyd y gang a oedd yn gyfrifol am y ffatri, ac ymosodwyd ar y ddau ddyn ar ôl iddynt gyrraedd y lleoliad.
Aed â Tomasz o'r eiddo mewn Mercedes arian, sydd heb ei ddarganfod o hyd, a chanfuwyd ei gorff yn Westville Road, Pen-y-lan, gan aelod o'r cyhoedd tua 11.30pm y diwrnod hwnnw. Roedd wedi dioddef sawl anaf.
Ychwanegodd y Ditectif Uwch-arolygydd O'Shea: “Mae Heddlu De Cymru wedi bod yn glir o'r cychwyn y byddem yn datrys yr achos cymhleth hwn a oedd yn cynnwys grwpiau troseddau cyfundrefnol o dde-ddwyrain Lloegr ac o Ewrop.
“Fel y mae'r achos hwn yn ei ddangos, nid yw ffiniau rhyngwladol yn rhwystr i ni wrth olrhain pobl dan amheuaeth o lofruddiaeth yn y DU, mae gennym gysylltiadau gwych â chydweithwyr gorfodi'r gyfraith ar hyd a lled Ewrop, gan gynnwys Albania a oedd yn gymorth mawr drwy gydol ein hymchwiliad.”
Mae swyddogion cyswllt teuluoedd yn parhau i gefnogi'r teulu Waga.
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: “Talodd Tomasz yn ddrud am y digwyddiadau ar y noson y collodd ei fywyd.
“Nid ydym am i drasiedi o'r fath ddigwydd i unrhyw deulu arall a byddem yn annog unigolion i ystyried y dewisiadau a wnânt ac effaith eu gweithredoedd, boed yn fwriadol neu dan orfod, ar eu hanwyliaid.
“Bydd yn ein calonnau am byth.”
Mewn perthynas â Carl Davies, cafwyd Nushi, 27 oed a Dhana, 29 oed yn euog o glwyfo'n fwriadol, a chafwyd Aliaj, 31 oed, yn euog o glwyfo.
Mae'r tri yn cael eu cadw yn y ddalfa. Cânt eu dedfrydu ar 10 Ionawr.