Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
#GydaNiNidYnEinHerbyn – Swyddog yr Heddlu yn rhannu ei phrofiad o wynebu ymosodiad pan oedd ar ddyletswydd
Ers mis Ionawr 2022, cafwyd mwy nag 800 o adroddiadau bod swyddogion yn Heddlu De Cymru wedi wynebu ymosodiad pan oeddent ar ddyletswydd, a bod 31% o'r ymosodiadau hyn wedi digwydd yn ardal Morgannwg Ganol.
PC Cara Roberts, sydd wedi'i lleoli yn Aberdâr, yw un o'r rhain ac mae'n rhannu ei stori er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r heriau a wynebir gan swyddogion.
Rai misoedd ers dechrau yn ei rôl fel Swyddog yr Heddlu, galwyd PC Roberts i ddigwyddiad a oedd yn cynnwys menyw a oedd wedi meddwi ac wedi cynhyrfu. Ar ôl siarad â'r fenyw, cytunodd PC Roberts iddi fynd i'r ysbyty gyda PC Roberts a'i chydweithiwr i gael archwiliad llesiant.
“Roeddwn i a'm cydweithiwr yn aros yn yr ysbyty gyda hi pan geisiodd afael yn ffôn gwaith fy nghydweithiwr. Dechreuodd fod yn ymosodol, gan weiddi a rhegi atom yn y cyntedd cyn gwthio cadair olwyn i mewn i'm cydweithiwr”, dywedodd PC Roberts.
O ganlyniad, aeth PC Roberts ati i'w hatal a'i hebrwng yn ôl i fan yr heddlu. Roedd y fenyw yn gwrthwynebu pan geisiwyd ei rhoi yn y fan yn ddiogel, ac wrth i Roberts estyn i roi ei choesau yn y gawell a chau'r drws, cafodd ei chicio'n galed yn ei thrwyn.
“Teimlais boen ar unwaith ac roedd fy nhrwyn yn gwaedu ac wedi chwyddo. Roedd y boen mor wael, roeddwn yn poeni bod fy nhrwyn wedi torri neu fod fy nannedd blaen wedi dod allan. Bu'n rhaid i mi weld nyrs a chael pelydr-x, ond nid oedd wedi torri diolch byth.”
Pan ofynnwyd iddi sut roedd y digwyddiad wedi effeithio arni, dywedodd PC Roberts, “Effeithiodd yr ymosodiad arna i yn gorfforol ac yn feddyliol. Llefais yn gyrru adref o'r gwaith y bore hwnnw.
“Allwn i ddim deall pam yr oedd wedi digwydd gan fy mod wedi bod mor gwrtais a gofalgar wrth y fenyw, gan wneud fy ngorau i'w helpu ar adeg anodd. Gadawodd fi yn cwestiynu fy hun ac yn meddwl a oeddwn wedi gwneud rhywbeth o'i le.”
Rhannodd hefyd sut yr effeithiodd ar ei theulu a'i ffrindiau a oedd yn poeni am ei diogelwch gan ei fod mor gynnar yn ei gyrfa.
“Fel swyddogion yr heddlu, rydyn ni'n dod i'r gwaith i helpu pobl, dydyn ni ddim yn disgwyl wynebu ymosodiad. Mae'n cael mwy o effaith na'r hyn y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei sylweddoli.
“Y cyfan y byddwn i'n ei ofyn yw bod pobl yn cymryd eiliad i gofio bod pob gweithiwr yn y gwasanaethau brys yn anwylyd i rywun, ac yn haeddu cael ei drin â pharch.”
Lansiwyd ymgyrch #GydaNiNidYnEinHerbyn ym mis Mai 2021 gan y Grŵp y Cyd-wasanaethau Brys yng Nghymru i geisio lleihau nifer yr ymosodiadau ar weithwyr brys.
Gallwch ddysgu mwy yma: #GydaNiNidYnEinHerbyn 2022 | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)