Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:41 22/12/2022
Mae'r dyn 65 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar Ffordd Lecwydd, Caerdydd ddydd Mawrth 20 Rhagfyr wedi'i enwi fel John Benedict Laurence o ardal y Rhath yng Nghaerdydd.
Mae teulu Mr Laurence wedi talu'r deyrnged ganlynol iddo:
“Ben yr oedden ni'n ei alw, ond mae llawer yn cofio'n dyner amdano yn ôl ei lysenw “Grunt”.
“Fel teulu, rydym yn hynod drist o glywed am farwolaeth sydyn Ben. Wynebodd llawer o heriau drwy gydol ei oes ond daeth o hyd i hapusrwydd gyda'i bartner hirdymor, Liz, am dros 30 o flynyddoedd cyn ei marwolaeth drist sawl blwyddyn yn ôl.
“Ers hynny, bu Ben yn byw bywyd i'r eithaf gan fwynhau gyrru beiciau modur ac ymweld â lleoedd newydd ymhell ac agos. Roedd wrth ei fodd ag antur a chrwydro ac roedd ganddo gymaint o gynlluniau na fydd yn gallu eu cyflawni mwyach.
“Gwnaeth lawer o ffrindiau yn ystod ei amser yma ac rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran pawb wrth ddweud cymaint y byddwn yn ei golli. Gorffwys mewn hedd, Ben”.
Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad rhwng beic a lori Daf a ddigwyddodd ychydig ar ôl 4.00pm nos Fawrth (20 Rhagfyr) ar Ffordd Lecwydd.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw dystion nad ydynt wedi cysylltu eto neu y gall fod ganddynt fideo o gamera dashfwrdd o'r digwyddiad i gysylltu â ni a dyfynnu'r cyfeirnod 2200424961.
Ewch i:
🗪 Sgwrs Fyw (9pm-4pm) https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Rhowch Wybod Ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Diwedd
Mae ffotograff o John Laurence wedi'i atodi i'w ddefnyddio wrth adrodd ar y deyrnged hon yn unig.