Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r dedfrydau olaf mewn cysylltiad â'r terfysg yn Mayhill ym mis Mai 2021 wedi cael eu rhoi heddiw yn Llys y Goron, Abertawe.
Mae tri bachgen 17 oed wedi cael dedfryd o garchar ar ffurf gorchmynion cadw a hyfforddiant sy'n amrywio o dri i wyth mis hyd at flwyddyn i ddwy flynedd.
Ynghyd â 18 o bobl a garcharwyd ddoe am fwy nag 83 o flynyddoedd, a deg o bobl ifanc yr ymdriniwyd â nhw naill ai yn y Llys Ieuenctid neu drwy Rybuddiad, mae 31 o bobl wedi cael eu dwyn gerbron llys barn neu wedi cael cosb arall ar ôl yr anhrefn yn Mayhill ar 20 Mai y llynedd.