Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall ffactorau a all effeithio ar hyn ar yr adeg hon o'r flwyddyn gynnwys yfed mwy o alcohol, pwysau ariannol ychwanegol, ac agosrwydd cynyddol gartref.
Mae'r Heddlu yn annog unrhyw un sydd wedi cael ei gam-drin yn gorfforol, yn emosiynol, yn seicolegol, yn rhywiol neu'n ariannol i roi gwybod iddo.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Eve Davis: “Mae cam-drin a thrais domestig yn ddinistriol a gall gael effeithiau sylweddol a hirdymor ar bawb dan sylw, mewn nifer o ffyrdd.
“Mae'n hollbwysig cofio bod amgylchiadau pawb yn wahanol, a byddwn yn ymateb yn ôl anghenion y rhai dan sylw, heb farnu.
“Mae cam-drin a thrais domestig yn ffiaidd, a gellir eu hatal. Rydym yn ymrwymedig i ymateb i bob galwad am gam-drin a thrais domestig ac i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl.
“Rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid er mwyn gallu ymateb mewn ffordd sy'n mynd i'r afael â diogelu fel mater o flaenoriaeth. Byddwn yn annog dioddefwyr, troseddwyr ac eraill y mae cam-drin a thrais domestig yn effeithio arnynt i roi gwybod i ni am hyn.
“Bydd rhoi gwybod i ni am unrhyw bryderon yn ein galluogi i helpu, cefnogi ac ymateb yn y ffordd fwyaf priodol, a gallwn hefyd eich cyfeirio at sefydliadau cymorth a fydd yn deall eich anghenion penodol.”
Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan: “Yn anffodus, gwyddom fod achosion o gam-drin a thrais domestig yn dal i fynd heb gael eu cofnodi a byddwn yn annog unrhyw un y mae achosion o'r fath yn effeithio arnynt i gysylltu â ni gan fod ein swyddogion a'n staff arbenigol yn barod i'w cefnogi ac i helpu i'w cadw'n ddiogel. Rwyf am i'r cyhoedd gael sicrwydd a hyder yn ein penderfyniad i wneud ein gorau drostynt. Rwyf am sicrhau bod dioddefwyr yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth ar bob cam.
“O ran troseddwyr sy'n credu bod y math hwn o ymddygiad llwfr yn dderbyniol, dylent wybod y byddwn yn defnyddio pob adnodd sydd ar gael i ni i'w hatal rhag troseddu a'u dwyn o flaen eu gwell. Nid oes lle i gam-drin na thrais domestig yn ein cymdeithas.”
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael: “Hoffwn gadarnhau fy ymrwymiad diflino i fynd i'r afael â cham-drin domestig, sy'n ddinistriol ac yn aml yn arwain at oes o drallod i ddioddefwyr, eu teuluoedd a chymunedau.
“Mae mynd i'r afael â phob math o drais domestig wedi bod yn flaenoriaeth allweddol yn ein Cynllun yr Heddlu a Throseddu ar y cyd, ac mae ein Strategaeth ar y Cyd ar gyfer 2019-2024 yn nodi ein penderfyniad clir i weithio gyda dioddefwyr a goroeswyr, ynghyd â'n partneriaid, i'w atal.
“Drwy ein rhaglen DRIVE, rydym yn llwyddo i leihau erledigaeth fynych drwy herio troseddwyr a chynnig y cyfle iddynt newid, gan gefnogi dioddefwyr a goroeswyr a'u teuluoedd ar yr un pryd.”
Blaenoriaeth Heddlu De Cymru yw diogelu unrhyw un sy'n wynebu cam-drin a thrais domestig, ac unrhyw blant sydd gennych. Os yw'r sefyllfa yn un frys, bydd swyddog yn ymweld â chi ac, os bydd hynny'n gymesur, yn angenrheidiol ac yn gyfreithlon, bydd yn arestio'r troseddwr ac yn cymryd camau i'ch diogelu rhag niwed pellach – gan roi amser i chi feddwl.
Mae Llinell Gymorth Am Ddim Byw Heb Ofn yn cynnig help a chyngor i unrhyw un sy'n wynebu trais neu gam-drin domestig, neu unrhyw un, yn cynnwys ffrind neu aelod o'r teulu, sy'n adnabod rhywun y mae angen help arno.
Gallwch gysylltu â'r llinell gymorth drwy ffonio 0808 80 10 800 neu e-bostio [email protected]. Mae'r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gallwch roi gwybod i Heddlu De Cymru am ddigwyddiadau neu bryderon nad ydynt yn rhai brys drwy'r dulliau canlynol:
Sgwrs fyw: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
Rhoi gwybod ar-lein: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/
E-bostio: [email protected]
Ffonio 101. Mewn argyfwng, deialwch 999 bob amser.
Gallwch hefyd gysylltu â Crimestoppers yn gwbl ddienw ar 0800 555 111.
Am restr lawn o sefydliadau cymorth: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cyngor/cyngor-a-gwybodaeth/cam-drin-domestig/cam-drin-domestig/sefydliadau-cymorth/