Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 32 oed o Gaerdydd wedi derbyn dedfryd oes o garchar yn Llys y Goron Caerdydd ar ôl pledio'n euog i 28 achos o drais rhywiol, gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn ac ymosodiad rhywiol drwy dreiddiad.
Bydd Lee Williams o ardal Pentwyn y ddinas yn gorfod treulio o leiaf naw mlynedd a phedwar mis yn y carchar.
Ar ôl clywed y ddedfryd, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Laura Slocombe o'r Tîm Ymchwilio i Achosion o Dreisio yn Nhredelerch: “Hoffwn ddiolch i'r 5 dioddefwr a roddodd dystiolaeth a arweiniodd at anfon Williams i'r carchar.
“Gwnaethant ddangos dewrder mawr wrth roi gwybod i ni ac rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd a gafodd Williams yn y Llys yn rhoi rhywfaint o gysur i'r dioddefwyr a'u teuluoedd.
“Mae'r ymchwiliad hwn a'r euogfarn ddilynol yn anfon neges gadarnhaol na fydd Heddlu De Cymru yn goddef trais yn erbyn menywod na merched ac y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei weinyddu yn erbyn troseddwyr.
Wrth ddedfrydu Williams, dywedodd Cofnodydd Caerdydd, y Barnwr Tracey Lloyd: “Mae eich ymddygiad wedi achosi trawma sylweddol i bob un ohonynt, mae rhai o'ch dioddefwyr wedi teimlo'n euog ond does ganddynt ddim rheswm dros deimlo'n euog. Mae'r euogrwydd a'r cyfrifoldeb i gyd ar eich ysgwyddau chi.”
Cafodd Williams ei wneud yn destun gofynion hysbysu troseddwr rhyw, Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol a gorchymyn atal mewn perthynas â'i holl ddioddefwyr am gyfnod amhenodol hefyd.
Rydym yn cymryd pob adroddiad am drais rhywiol o ddifrif ac yn annog unrhyw un sy'n dioddef trosedd o'r fath i roi gwybod amdani. Dylai dioddefwyr deimlo'n hyderus y byddant yn cael eu trin â pharch ac urddas, ac yr ymchwilir i'w honiad yn llawn.
Rydym yn derbyn pob adroddiad am drais, trais a amheuir neu drais posibl ar ei olwg ac yn ei gofnodi ar system cofnodi troseddau'r heddlu, ni waeth beth yw ffynhonnell yr adroddiad. Mae hyn yn cynnwys adroddiadau a wneir gan drydydd partïon, drwy waith partneriaeth neu gan asiantaethau eraill.
Mae pob aelod o'r staff sy'n ymdrin ag achosion fel hyn, o'r cysywllt cyntaf â'r dioddefwr hyd at gwblhau ffeil tystiolaeth, yn cwblhau proses hyfforddi ac achredu gynhwysfawr i sicrhau bod ymchwiliadau yn cael eu cynnal mewn modd proffesiynol.
Rydym yn ystyried defnyddio cyfleuster y Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol ym mhob achos o drais. Drwy ddefnyddio'r Ganolfan o'r cychwyn cyntaf, gellir sicrhau bod y dioddefwr yn cael y cymorth cywir drwy gydol y broses, o roi gwybod am y digwyddiad i derfyn yr achos, gan gynnig gofal iechyd, cymorth mewn argyfwng a gwasanaeth mentora drwy'r broses cyfiawnder troseddol.