Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd bachgen saith oed sy'n sâl anrheg #Nadolig cynnar pan ddaeth i'n huned cŵn a cheffylau yr wythnos diwethaf.
Mae Roman, sy'n saith oed, o Ben-y-bont ar Ogwr, ac sy'n cael triniaeth am Lewcemia, yn edmygwr mawr o'r heddlu ac – fel llawer o'n dilynwyr – mae'n hoff iawn o'n ffrindiau pedair coes yn yr uned arbenigol.
Mae gan Roman restr o bethau yr hoffai eu gwneud, ac roedd ein tîm yn fodlon ei helpu i wireddu'r freuddwyd benodol hon a rhoi tic ar ei restr o ddymuniadau.
Croesawyd Roman, ei fam, Gemma, ei frawd, Mason, a'i chwaer, Felicity, i'n safle yn Waterton gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Mark Travis.
Yno, gwnaethant gwrdd â rhai o gŵn yr heddlu a'u swyddogion a cheffylau'r heddlu. Cafodd y bachgen dewr gyfle i eistedd ar feic modur yr heddlu, eistedd mewn car patrôl a rhoi cynnig ar radio'r heddlu.
Ac i goroni ei ymweliad arbennig â'r uned, daeth Siôn Corn i ddweud helo.
Rwyt ti'n wirioneddol anhygoel, Roman, ac roedd hi'n bleser dy groesawu.