Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd cynnydd ym mhresenoldeb yr heddlu yng nghanol dinas Abertawe yn y cyfnod cyn y Nadolig fel rhan o'n hymgyrch flynyddol, sef Ymgyrch y Gaeaf.
Hyd at Noswyl Nadolig, bydd patrolau amlwg iawn Ymgyrch y Gaeaf i'w gweld drwy ganol y ddinas, gan roi sicrwydd i'r cyhoedd ac atal gweithgarwch troseddol. Bydd swyddogion yn mynd ar batrolau troed er mwyn ymgysylltu â'r cyhoedd ac ymateb i unrhyw ddigwyddiadau.
Esbonia Arolygydd yr Heddlu Lleol Mark Watkins:
“Yn y cyfnod cyn Dydd Nadolig, mae Abertawe yn croesawu nifer fawr o bobl i ganol y ddinas sy'n ymweld â'r Farchnad Nadolig a Gŵyl y Gaeaf, yn ogystal â'r rheini sydd yn y dref i wneud eu siopa Nadolig neu i fynd i bartïon Nadolig.
“Cyfnod y Nadolig yw un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn yn y ddinas a gall hyn arwain at gynnydd yn nifer y troseddau dwyn o siopau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol.
“Fel bob amser, rydym yn parhau'n ymrwymedig i sicrhau bod pawb yn mwynhau digwyddiadau, atyniadau a lleoliadau Abertawe yn ddiogel. Felly, bydd swyddogion yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid i roi sicrwydd i siopwyr a dathlwyr, yn ogystal â tharfu ar weithgarwch troseddol, a'i atal. Ein nod yw rhoi sicrwydd i chi – nid rhoi rhywbeth i chi boeni amdano. Mae fy swyddogion yno i'ch cadw chi'n ddiogel.
“Bydd yr heddlu a'n partneriaid wedi'u lleoli mewn caban yn y Farchnad Nadolig er mwyn rhoi cymorth i unrhyw un sy'n ymweld â chanol y ddinas. Bydd swyddogion yn fwy na pharod i sgwrsio â chi ac os byddwch yn gweld rhywbeth anarferol, rhowch wybod iddynt a gallant ymchwilio iddo.”
Ychwanegodd Russell Greenslade, Prif Weithredwr Ardal Gwella Busnes Abertawe:
"O ganlyniad uniongyrchol i'r gudd-wybodaeth a dderbyniwyd gan fwy na 800 o'n sefydliadau, rydym yn cefnogi ein partneriaid yn Heddlu De Cymru gyda hyd yn oed mwy o adnoddau i'w defnyddio yng nghanol ein dinas sydd ar gynnydd, a chymorth ariannol ar gyfer cael swyddogion yr heddlu ychwanegol dros y cyfnod prysur hwn.
“Yr amcan yw helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau busnes, gan helpu i wella'r amgylchedd i ymwelwyr a masnachwyr ar adeg hollbwysig i'n busnesau.
“Mae'r buddsoddiad pellach hwn i fesurau diogelwch canol ein dinas yn ychwanegol i'n gweithrediadau diogelwch eraill, sy'n cynnwys cyllid ar gyfer gweithrediadau ein Marsialiaid Nos a thîm Ceidwad canol y ddinas, sy'n gweithio mewn partneriaeth agos â'r heddlu i gadw ymwelwyr a masnachwyr yn ddiogel yng nghanol y ddinas.”