Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol a ddigwyddodd ar Ffordd Sain Helen, Abertawe, tua 8pm nos Gwener (2 Rhagfyr).
Bu beic modur Yamaha glas mewn gwrthdrawiad â Toyota Prius arian ac, er gwaethaf ymdrechion gorau’r gwasanaethau brys, cyhoeddwyd bod gyrrwr y beic modur, sef dyn 19 oed o’r Cocyd, wedi marw yn y fan a’r lle.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Lee Christer:
“Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau'r beiciwr modur.
“Rydym yn deall bod nifer o bobl wedi gweld y gwrthdrawiad. Hoffem glywed gan unrhyw un a all fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu y gall fod ganddo fideo camera dashfwrdd o'r digwyddiad neu a welodd y ddau gerbyd yn cael eu gyrru cyn y gwrthdrawiad.”
Gan fod y gwrthdrawiad wedi digwydd yn dilyn cyswllt â Heddlu De Cymru, gwnaethom gyfeirio’r digwyddiad at Swyddfa Annibynnol yr Heddlu, sy’n cynnal ymchwiliad annibynnol ar wahân yn ymwneud â'r cyswllt â’r heddlu cyn ac ar ôl y gwrthdrawiad.
Ewch i https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/us/cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/ gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2200406425.