Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
![]() |
![]() |
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am wybodaeth am ddigwyddiad yng nghanol dinas Abertawe yn ystod oriau mân Dydd Nadolig.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 3.05am yn dilyn adroddiadau bod car wedi mynd i afon Tawe ar New Cut Road.
Cafodd Mini John Cooper Works du ei ganfod o dan ddŵr yr afon. Cafodd cyrff dynes a dyn, y ddau yn 36 oed, eu darganfod. Mae eu teuluoedd yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbenigol.
Enwyd Rachel Curtis o ardal Fôn-y-maen yn Abertawe fel gyrrwr y Mini.
Mae'r teulu wedi talu'r deyrnged ganlynol drwy eu swyddog cyswllt teuluol: “Roedd Rachel yn berson doniol, deallus ac unigryw. Roedd hi'n hynod dalentog ac yn greadigol mewn ewinedd a chelf. Roedd yn gweithio yn Stadiwm Liberty yn addysgu celf therapiwtig a chelf ewinedd.
“Roedd hi'n hyfforddwr hunanamddiffyn ac yn hyfforddwr diogelwch elitaidd, wedi'i hyfforddi fel swyddog diogelwch tynn a goruchwylydd drws. Helpodd i godi arian i'r “Jack Lewis Foundation” sef elusen atal hunanladdiad. Bu Rachel hefyd yn codi arian i “Matthews House”, elusen digartrefedd ac roedd yn rhan o brosiectau ieuenctid yn helpu merched ifanc. Bydd colled enfawr ar ôl Rachel gan bawb a oedd yn ei hadnabod, yn enwedig ei mab 14 oed. “
Mae'r dyn a oedd yn deithiwr yn y car wedi cael ei enwi fel Jay Kyle Jenkins o ardal St Thomas.
Mae swyddogion yn apelio i unrhyw un a all fod wedi gweld y car yn mynd i'r afon, neu sydd â theledu cylch cyfyng neu fideo camera dashfwrdd a all fod wedi recordio'r digwyddiad, i gysylltu â nhw drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu'r rhif digwyddiad 2200429694. Maent hefyd am siarad ag unrhyw un a all fod wedi gweld neu siarad â Rachel neu Jay cyn y digwyddiad.
Sgwrs Fyw (9am-4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener) https://www.south-wales.police.uk/
Cysylltwch â ni drwy https://bit.ly/SWPProvideInfo
E-bostiwch [email protected]
101