Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi'i ddedfrydu i garchar ar ôl iddo gael ei euogfarnu ar 9 Rhagfyr o lofruddiaeth dyn yng Nghaewern, Castell-nedd, ym mis Ebrill eleni, yn dilyn treial a barodd bythefnos.
Heddiw, ddydd Iau 22 Rhagfyr, cafodd Emmett Peter Morrison, 38 oed o Heol Catwg, Caewern, ddedfryd oes ar ôl i gorff Timothy Dundon, 66 oed, gael ei ganfod mewn eiddo ar Heol Catwg ddydd Mercher 27 Ebrill. Bydd yn y carchar am o leiaf 28 mlynedd.
Cafodd hefyd ddedfryd o 6 mlynedd, i'w bwrw ar yr un pryd, am ymosod ar Antonio Aprea, 74 oed, o Lygad yr Haul, Caewern ddydd Llun 25 Ebrill.
Dywedodd y swyddog a oedd yn gyfrifol am yr achos, Huw Griffiths:
“Roedd hon yn farwolaeth gwbl ddisynnwyr ac nid oes amheuaeth ei bod wedi cael effaith ddifrifol ar y cymdogion a welodd yr hyn a ddigwyddodd. Rwy'n fodlon ein bod wedi cyflwyno'r achos hwn gerbron y llys er mwyn canfod y gwirionedd ynghylch yr hyn a ddigwyddodd i Timothy Dundon. Yn ogystal, roedd yr ymosodiad ar y dyn 74 oed agored i niwed yn ffiaidd ac yn gwbl ddigyfiawnhad. Yn ffodus, mae wedi gwella'n dda o'i anafiadau corfforol ond bydd yn cymryd llawer mwy o amser i drawma'r digwyddiad leddfu.
“Hoffwn ddiolch i aelodau cymuned Caewern am eu cymorth a'u hamynedd yn ystod yr ymchwiliad.
“Hoffwn hefyd gydnabod gwaith yr holl swyddogion a staff a fu'n rhan o'r achos hwn – o arestiad cychwynnol Emmett Morrison, i'w gyhuddiad a'r ymchwiliad dilynol i'w ddwyn o flaen ei well heddiw.”
Mae teulu Timothy wedi talu'r deyrnged ganlynol iddo.
“Roedd Timmy yn ddyn agored i niwed a oedd yn byw ar ei ben ei hun. Gwnaeth Emmett Morrison ffrindiau ag ef, a manteisiodd arno'n ariannol. Talodd Timmy y pris eithaf am y cyfeillgarwch honedig hwn, pan gafodd ei lofruddio'n greulon gan Emmett Morrison ym mis Ebrill 2022. Bydd clywed pob manylyn o'r ymosodiad ffyrnig ar Timmy yn peri hunllef i ni am byth. Rydym yn falch ein bod wedi sicrhau cyfiawnder i Timmy. Hoffem ddiolch i holl staff Heddlu De Cymru am eu gwaith caled a'u hymroddiad, ac am eu cefnogaeth ddiflino i'r teulu."
Ychwanegodd y Ditectif Brif Arolygydd, Matthew Davies:
“Mae cam-drin a chamfanteisio ar unrhyw oedolyn yn annerbyniol ac rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i atal y rhai sy'n cyflawni troseddau yn erbyn unigolion agored i niwed.
“Mae tîm ymroddedig o swyddogion yn gweithio i'n Huned Diogelu'r Cyhoedd ac yn gyfrifol am ymchwilio i ddigwyddiadau sy'n dod o dan fantell Diogelu Pobl sy'n Agored i Niwed yn ogystal â diogelu pobl agored i niwed yn ein hardal.
“Gall aelodau agored i niwed o'n cymdeithas fod yn llai tebygol o roi gwybod eu bod yn cael eu cam-drin neu wedi dioddef trosedd, felly mae'n bwysig bod aelodau'r cyhoedd yn sicrhau eu bod yn rhoi gwybod i ni os byddant yn credu bod rhywun yn cam-drin neu'n camfanteisio ar berson.”