Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pedwar dyn yn dechrau dedfrydau sy'n creu cyfanswm o bron 50 mlynedd, ar ôl i swyddogion o Tarian, tîm troseddau cyfundrefnol rhanbarthol de Cymru, chwalu eu gang troseddau cyfundrefnol gyda chymorth gan swyddogion o Heddlu De Cymru.
Casglodd ditectifs swm sylweddol o dystiolaeth o rwydwaith delio cocên a heroin ar raddfa fawr a oedd yn cael ei redeg ledled Cymru gan Nicholas Gale, 31, a'i gyd-droseddwyr.
Defnyddiodd Gale lwyfannau negeseuon wedi'u hamgryptio i siarad â'i gyflenwyr a'i sail gwsmeriaid i drefnu'r broses o brynu a chyflenwi cyffuriau. Cafodd gymorth gan Spencer Perks, 42, a'r cludwr Jamie Christopher, 22. Roedd Jake Garland, 28, yn gwsmer i Nicholas Gale, a oedd â rhwydwaith dosbarthu cocên cyfanwerthol.
Ar 14 Gorffennaf 2022, anfonodd Gale negeseuon ar y llwyfannau wedi'u hamgryptio i drefnu i symiau cyfanwerthol o gocên pur iawn gael eu casglu. Casglodd Perks 18 cilo o gocên gan gyflenwr Gale, a gafodd wedyn ei ddosbarthu rhwng Garland a Christopher.
Ar yr un diwrnod, cafodd Gale, Perks a Christopher eu harestio gan yr heddlu ac atafaelodd y swyddogion 12 cilo o gocên, arian parod a pheiriant cyfri, dyfais â negeseuon wedi'u hamgryptio arni, nodyn yn amlinellu symiau o gyffuriau i gwsmeriaid gyda chodau post, a negeseuon grwpiau sgwrsio wedi'u hamgryptio er mwyn i Christopher ddosbarthu cocên ar ran Gale.
Daethpwyd o hyd i gyfleuster cynhyrchu cocên yng nghyfeiriad Perks.
Dim ond ciplun o fusnes cyffuriau Gale oedd yr hun a ganfuwyd ar y dyddiad hwn. Roedd y ddyfais a atafaelwyd yn cynnwys tystiolaeth helaeth o rôl arweiniol Gale yn ei grŵp troseddau cyfundrefnol.
Ar 27 Medi 2022, cafodd Jake Garland ei arestio, yn dilyn y dystiolaeth a ganfuwyd ar ddyfais Gale ac yn ei gyfeiriad cartref, y cocên a ddarganfuwyd gan yr heddlu, clorian digidol a mwy na £55,000 mewn arian parod.
Ymddangosodd y canlynol gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth (6 Rhagfyr) i'w dedfrydu am droseddau cyffuriau:
Cafodd Jake Garland, o Gasnewydd, ei ddedfrydu i 15 mlynedd am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a bod â chocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi
Cafodd Nicholas Gale, o Dreganna, Caerdydd, ei ddedfrydu i 13 mlynedd a chwe mis am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A
Cafodd Spencer Perks, o Aberpennar, Rhondda, ei ddedfrydu i 10 mlynedd ac wyth mis am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a chynhyrchu canabis
Cafodd Jamie Christopher, o'r Tyllgoed, Caerdydd, ei ddedfrydu i naw mlynedd am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a bod â chanabis yn ei feddiant
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dorian Williams: “Yr wythnos hon rydym wedi carcharu pedwar unigolyn am nifer sylweddol o flynyddoedd, fel rhan o Ymgyrch Cruz, lle llwyddodd swyddogion i dorri i mewn i'r llwyfannau wedi'u hamgryptio a ddefnyddiwyd gan y gang troseddau cyfundrefnol i gynnal ei fusnes.
“Yn Tarian rydym yn ymrwymedig i dargedu'r rhai sy'n cyflenwi cyffuriau a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y bobl hynny sy'n credu eu bod uwchlaw'r gyfraith yn cael eu dwyn gerbron y llys.
“Mae'r grŵp troseddau hwn bellach yn y carchar a, diolch byth, ni fyddant yn gallu dod â chyffuriau a gofid i deuluoedd a chymunedau ledled Cymru a thu hwnt.”