Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad traffig ffyrdd a ddigwyddodd ar Avenue De Clichy, Merthyr Tudful, tua 10pm nos Sadwrn, 24 Rhagfyr, wedi cael ei enwi fel Ron Fealey, a oedd yn 82 oed.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys Nissan Qashqai du a'r cerddwr, Mr Fealey, a gafodd ei gludo i'r ysbyty lle bu farw'n ddiweddarach o'i anafiadau.
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: “Roedd dad yn unigryw. Er ei fod yn 82 oed, roedd yn ddyn heini ac iach ac yn mynd i'r gampfa ddwywaith yr wythnos. Roedd yn berson doniol, deallus a gofalgar – roedd wrth ei fodd yn helpu eraill. Clwb Rygbi Dowlais oedd ei ‘gariad’ pennaf dros y 42 mlynedd diwethaf lle'r oedd yn aelod gweithgar o'r pwyllgor. Aeth ar daith gyda'r clwb i Malta ym mis Mai eleni, hyd yn oed.
“Ymunodd â'r clwb yn wreiddiol i wylio ei feibion, Mike a Steve, yn chwarae ond daeth yn obsesiwn gydol oes yn gyflym. Roedd hefyd yn mynychu Eglwys Illtud Sant yn Nowlais, lle'r oedd yn gofalu am yr arian.
“Cyn iddo ymddeol, gweithiai fel nyrs yn yr uned gofal dwys ac mewn theatrau llawdriniaethau yn ardaloedd Merthyr a Chwm Cynon. Daeth ei yrfa i ben drwy helpu i sefydlu'r Uned Gofal Dibyniaeth Fawr ar gyfer Gofal yr Henoed yn Ysbyty Santes Tudful. Wedi iddo ymddeol, gweithiodd i'r gwasanaethau cymdeithasol gan gludo plant maeth yn ôl ac ymlaen i'r ysgol, ac roedd wrth ei fodd.
“Rhoddodd ef a'i wraig, Mayo, ofal nyrsio i blant ar eu pererindod flynyddol i Lourdes, Ffrainc, gyda Grŵp 102 yr HCPT.
“Bydd y teulu cyfan yn ei golli'n fawr, yn enwedig ei bedwar ŵyr a'i bedwar gor-ŵyr, gyda'r pumed i gyrraedd y byd ym mis Mai. Roedd yn parhau i chwarae rôl weithgar ym mywydau pob un.”
Mae teyrnged bellach wedi cael ei rhyddhau gan Glwb Rygbi Dowlais:
“Mae'n dristwch aruthrol bod y clwb wedi colli un o'i hoelion wyth a gwir glybiwr ym mhob ystyr o'r gair.
“Roedd Ron yn cael ei barchu'n fawr gan bawb a oedd yn ei adnabod, o'i gyd-swyddogion, chwaraewyr y gorffennol a'r chwaraewyr presennol, i aelodau'r clwb a ffrindiau lu Clwb Rygbi Dowlais.
“Chwaraeodd Ron rôl allweddol yn natblygiad a chynnydd y clwb am y 30 mlynedd diwethaf o wasanaeth, gan weithredu fel Trysorydd Anrhydeddus ac yn un o gyfarwyddwr presennol y clwb. Derbyniodd Ron y clod o gael ei wneud yn un o bum Aelod Oes y clwb hefyd.
“Roedd Ron yn berson teyrngar, cefnogol, ysbrydoledig ac roedd yn ddiddorol iawn wrth i chi dreulio amser yn ei gwmni. Roedd bob amser ar gael i gefnogi unrhyw un a oedd ei angen, a gwrando arnynt hefyd pe byddai rhywun angen hynny.
“Ni wnaeth Ron fethu'r un nos Iau na phrynhawn Sadwrn a Sul nac ychwaith daith y clwb gyda'i ffrindiau oes arbennig, David Harris and Keith Oxenham.
“Bydd Ron yn cael ei barchu, ei gofio a'i garu am byth gan bawb yng Nghlwb Rygbi Dowlais - Bachgen Bach o Ddowlais.
“Cwsg yn dawel Ron, ein ffrind annwyl.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad. Cafodd dynes 31 oed ei harestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru heb ofal na sylw priodol ac mae ar fechnïaeth tra bydd yr ymchwiliad yn parhau.
Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â deunydd fideo o gamera dashfwrdd o'r digwyddiad, neu a welodd y modd yr oedd y Qashqai yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad gysylltu â'r heddlu drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/ neu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 2200429526.