Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol a ddigwyddodd ar Avenue De Clichy, Merthyr Tudful, tua 10pm nos Sadwrn, 24 Rhagfyr.
Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â cherbyd Nissan Qashqai du a cherddwr.
Cafodd y cerddwr, sef dyn 82 oed, ei gludo i'r ysbyty lle bu farw'n ddiweddarach o'i anafiadau.
Cafodd menyw 31 oed ei harestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru heb ofal na sylw priodol ac mae ar fechnïaeth tra bydd yr ymchwiliad yn parhau.
Dywedodd PC Nerys Reeve:
“Rydym yn parhau i feddwl am deulu a ffrindiau'r dyn. Rhoddwyd gwybod i'w berthnasau agosaf ac maent yn cael eu cefnogi gan swyddogion.
“Hoffem ddiolch i'r aelodau hynny o'r cyhoedd a wnaeth ein cynorthwyo yn lleoliad y gwrthdrawiad, a hoffem glywed gan unrhyw un a all fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu y gall fod ganddo ddeunydd fideo camera dashfwrdd o'r digwyddiad neu a welodd y modd yr oedd y Qashqai yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad.”
Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/ neu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2200429526.