Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:48 20/12/2022
Mae Heddlu De Cymru yn cymryd pob adroddiad am drais rhywiol o ddifrif, ac nid yw byth yn rhy hwyr i roi gwybod am drosedd.
Ar ôl ymchwiliad i droseddau rhywiol hanesyddol, mae Anthony Hampton o'r Barri wedi cael ei garcharu am 7 mlynedd heddiw (dydd Mawrth 20 Rhagfyr).
Cafodd Hampton, 75 oed, ei arestio yn 2018 a fis diwethaf, yn dilyn treial yn Llys y Goron Casnewydd, fe'i cafwyd yn euog o 12 achos o ymosod yn anweddus yn dyddio'n ôl i'r 1990au.
Dychwelodd i'r llys heddiw i gael ei ddedfrydu.
Dywedodd y swyddog yn yr achos, y Ditectif Ringyll Chris Warner, o Heddlu De Cymru: “Manteisiodd Anthony Hampton ar swydd gyfrifol a chyflawnodd droseddau erchyll yn erbyn plant.
“Dedfrydwyd Hampton heddiw yn dilyn ymchwiliad a ddechreuodd bron i bum mlynedd yn ôl a hoffwn ganmol y teuluoedd y mae'r achos hwn wedi effeithio arnynt am eu cymorth yn ystod yr hyn a fu'n gyfnod anodd iddynt.
“Bu'r dioddefwyr a'u teuluoedd ar daith hir ac anodd ond maent wedi dangos gwytnwch, urddas a dewrder rhyfeddol.
“Rydym yn gobeithio y bydd y canlyniad heddiw yn rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl iddynt bod cyfiawnder wedi cael ei weinyddu o'r diwedd.”
Mae Heddlu De Cymru yn cymryd pob adroddiad am drais rhywiol o ddifrif, ac nid yw byth yn rhy hwyr i roi gwybod am drosedd.
Mae cymorth ar gael i bob dioddefwr troseddau rhywiol a byddem yn annog pob dioddefwr, ni waeth pryd y digwyddodd y drosedd, i roi gwybod amdani.
Mae gwybodaeth a chyngor ar gael ar ein gwefan: