Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cael pwerau ychwanegol i ddelio ag unigolion sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
Mae gorchymyn gwasgaru 48 awr, a roddir o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, ar waith yng nghanol y dref tan 6.59pm yfory (dydd Sul, 1 Ionawr).
Dan Adran 35 o'r Ddeddf, mae swyddogion heddlu yn gallu gorchymyn i unrhyw un sy'n achosi, neu sy'n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod, adael yr ardal.
Bydd ganddynt hefyd y pŵer i atafaelu unrhyw eiddo y bydd swyddogion yn amau ei fod yn cael ei ddefnyddio i achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae'r gorchymyn hwn yn fesur ataliol yn dilyn helynt yng nghanol y dref brynhawn dydd Gwener.
Galwyd yr heddlu i Stryd yr Angel tua 3.15pm i adroddiad bod tua 15 o fechgyn yn eu harddegau yn ymladd. Ni chafodd neb ei anafu ac mae bachgen 16 oed o Bencoed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Matthew Codd o Heddlu De Cymru:
“Mae'r gorchymyn gwasgaru hwn ar waith y penwythnos hwn fel mesur ataliol.
“Bydd gennym fwy o heddlu yng nghanol y dref ac ni fydd swyddogion yn oedi rhag gorfodi'r pwerau ychwanegol a roddwyd iddynt er mwyn cadw'r gymuned yn ddiogel.
“Rydym yn annog rhieni a gwarcheidwad i siarad â'u pobl ifanc am beidio ag ymddwyn yn wrthgymdeithasol.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu bryderon am y mater hwn gysylltu â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2200434327.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.