Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:09 02/12/2022
Rhoddwyd dedfryd o bedair blynedd a phedwar mis i Brandon Jenkins, 18 oed, am dargedu Owen Stores, Trefechan a Sammy's Fish Bar yng Nghefn Coed, o fewn 24 awr i'w gilydd ar 13 a 14 Hydref.
Roedd Jenkins yn cario cyllell ac yn gwisgo sgarff i geisio cuddio pwy ydoedd, a chododd ofn mawr ar weithiwr siop Owen Stores wrth iddo ddwyn £700. Y noson flaenorol, roedd wedi mynd i Sammy's Fish Bar gyda bar haearn ac wedi mynd at y cownter, ond gadawodd pan gafodd ei herio gan aelod o staff.
Lansiwyd ymchwiliad i adnabod y troseddwr, ac yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw (14eg) daethpwyd o hyd i Jenkins a chafodd ei arestio.
Cafodd Jenkins, sydd heb gartref sefydlog, ei gyhuddo a phlediodd yn euog i un cyhuddiad o ladrata, un cyhuddiad o ymgais i ladrata a bod ag arf tramgwyddus yn ei feddiant pan ymddangosodd yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar 15 Hydref.
Ddydd Mawrth, roedd yn ôl yn yr un llys pan gafodd ei ddedfrydu gan y barnwr i bedair blynedd a phedwar mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Matt Hicks:
“Does dim lle o gwbl i'r math hwn o ymddygiad yn ein cymuned a dylai Brandon Jenkins deimlo cywilydd am ei weithredoedd.
“Diystyrodd y gyfraith a lles eraill yn llwyr pan gerddodd i mewn i ddau fusnes gyda chyllell a bar haearn a bygwth y staff er ei fudd hunanol ei hun.
“Yn ffodus, ni chafodd neb ei anafu yn y naill ddigwyddiad na'r llall a gadawodd Jenkins yn waglaw, ond gallai ei ymddygiad brawychus fod wedi achosi effeithiau hirdymor i'w ddioddefwyr.
“Rwy'n falch bod y ddedfryd hon yn adlewyrchu difrifoldeb ei droseddau a gobeithio y bydd yn defnyddio ei amser yn y carchar i feddwl yn ofalus am ganlyniadau ei weithredoedd.”