Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ers lansio'r ymgyrch, a ddechreuodd yn gynharach eleni er mwyn cyd-fynd â Chwpan y Byd, mae 3,518 o gerbydau wedi cael eu stopio a 2,878 o brofion anadl wedi'u cynnal.
Roedd un rhan o dair o'r holl brofion cyffuriau yn bositif, gyda 63 o bobl yn dychwelyd prawf positif am gyffuriau o'r 182 o brofion a gynhaliwyd.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Marc Lamerton: “Gwnaethom lansio ein hymgyrch ychydig dros fis yn ôl ac mae gweld ffigurau mor uchel yn peri pryder o ddifrif.
“Mae gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau yn annerbyniol; gall greu hyder ffug a all arwain at gynnydd mewn ymddygiad cymryd risg. Rydym yn ymrwymedig i ddal modurwyr sy'n penderfynu gyrru ar ôl defnyddio cyffuriau neu yfed alcohol ac sy'n peryglu bywydau.
“Dros y mis diwethaf mae gyrwyr wedi wynebu dirwyon o hyd at £415 ac wedi'u gwahardd rhag gyrru am 46 mis. Mae canlyniadau gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau yn ddifrifol, a chewch eich gwahardd rhag gyrru am 12 mis o leiaf, cofnod troseddol, a dirwy ddiderfyn neu hyd at chwe mis yn y carchar.
“Wrth i ni agosáu at y flwyddyn newydd, rydym yn annog y rhai sy'n dathlu i fod yn synhwyrol, i gynllunio eu teithiau adref ymlaen llaw ac i gadw llygad ar eu hanwyliaid i sicrhau bod pawb yn cyrraedd adref yn ddiogel.”
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:
“Mae'r ffigurau hyn yn achosi pryder - mae pawb sy'n gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn peryglu defnyddwyr ffyrdd diniwed, yn ogystal â'u hunain a'u teithwyr.
“Mae'r ffigurau hyn hefyd yn dangos bod ein swyddogion plismona'r ffyrdd yn ymrwymedig ac allan yn gweithio ledled De Cymru yn ceisio cadw ein ffyrdd yn ddiogel.
“Bydd unrhyw un sy'n cael ei ddal yn yfed a gyrru yn cael ei arestio, ei gyhuddo a'i ddwyn o flaen ei well o fewn saith diwrnod ac yn wynebu dirwy, gwaharddiad gyrru neu hyd yn oed gyfnod yn y carchar.
“Mae llawer o bobl wedi gwneud y camgymeriad hwn yn barod, felly maen nhw nawr yn wynebu cychwyn trychinebus i'w Blwyddyn Newydd.
“Fy neges i bawb yw peidiwch â gadael i hyn ddigwydd i chi. Rhowch ddiogelwch, synnwyr cyffredin a'r gyfraith yn gyntaf bob amser.”
Mae'n drosedd gyrru os bydd unrhyw un o 17 o gyffuriau a reolir uwchben lefel benodol yn eich gwaed. Mae hyn yn cynnwys cyffuriau anghyfreithlon a'r rhai a ragnodwyd yn gyfreithlon: Drugs and driving: the law - GOV.UK (www.gov.uk)
Dylech bob amser holi eich meddyg neu eich fferyllydd os ydych yn ansicr a fydd eich presgripsiwn neu eich meddyginiaeth dros y cownter yn effeithio ar eich gallu i yrru.
Gofynnir i unrhyw un sydd â phryderon am unrhyw un y credir eu bod yn gyrru dan ddylanwad i gysylltu â'r heddlu ar 101 (neu 999 os ydynt yn achosi perygl uniongyrchol), neu cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.