Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:01 19/12/2022
Mae 18 o bobl wedi cael eu dedfrydu am gyfanswm o mwy na 83 blynedd am eu rhan yn yr anhrefn yn Mayhill ar 20 Mai y llynedd. Dedfrydwydd y cyfan am derfysg.
Cafodd y dedfrydau canlynol eu rhoi yn Llys y Goron Abertawe:
Bydd tri person arall yn cael eu ddedfrydu am eu rhan yfory (Mawrth, Rhagfyr 20).
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gareth Jones:
“Roedd y digwyddiad hwn yn enghraifft o drais eithafol ac yn ymdrech amlwg i dorri'r gyfraith ac i ymosod yn fwriadol ar yr heddlu a fynychodd.
“Cododd y niferoedd a gymerodd ran ofn go iawn ar y trigolion lleol a welodd yr hyn a ddigwyddodd neu yr achoswyd difrod i'w heiddo yn ystod yr anhrefn.
“Mae sawl ffactor wedi cyfrannu at lwyddiant yr ymchwiliad a'r erlyniad hwn. Gwnaeth aelodau o'r cyhoedd ddatganiadau tystion a chawsom ddeunydd fideo oddi ar ffonau symudol neu gamerâu drws gan sawl aelod arall o'r cyhoedd. Roedd yr ymchwiliad a ddeilliodd o hynny yn drylwyr ac yn fanwl, a llwyddwyd i gyflwyno'r dystiolaeth mewn ffordd a ddarbwyllodd y llys i gollfarnu'r unigolion hyn.
“Mae'r dedfrydau a roddwyd i'r unigolion hyn yn adlewyrchu difrifoldeb yr hyn a wnaethant fis Mai diwethaf. Daethant at ei gilydd, yn cario arfau, ffyn a brics heb feddwl o gwbl am y trigolion na'r canlyniadau angheuol posibl a allai fod wedi deillio o'u gweithredoedd.
“Mae'n bleser gennyf ddweud ein bod wedi cael cyfiawnder a gobeithio y bydd y dedfrydau a roddwyd heddiw yn rhoi digon o amser i'r unigolion hynny a oedd yn benderfynol o fod yn rhan o'r anhrefn fyfyrio ar yr hyn a wnaethant.”